Mae un o helyntion yr Eisteddfod Genedlaethol yn ail hanner yr ugeinfed ganrif yn cael ei dwyn i gof mewn llyfr sy'n cael ei gyhoeddi ym Meifod ddydd Mercher yr Eisteddfod.
Detholiad o waith y diweddar Dyfnallt Morgan ydi Rhywbeth i'w Ddweud.
Geiriau Saunders Lewis ydyn nhw yn disgrifio cerdd flaengar gan Dyfnallt Morgan yr oedd eisiau rhoi coron Eisteddfod 1953 iddi.
Yr oedd y bryddest yn rhy feiddgar ar gyfer y ddau feirniad arall fodd bynnag.