Gan Lowri Johnston Gabrielle 25 sy'n agor y noson heno - yn hwyrach na'r arfer ar faes B - felly mae digon o bobl yno i'w gweld.
A diolch byth am hynny, gan fod llawer o fandiau sy'n agor noswethiau ym maes B yn aml yn chwarae i neuadd wag, ac mae Gabrille 25 yn haeddu gwell na hynny.
Mae'r band yn llawn hwyl, ond byddai'n bosib cyfathrebu'n fwy gyda'r gynulleidfa. Wrth i'r set fynd yn ei flaen, maent i'w gweld yn fwy cyfforddus ar y llwyfan. Mae'r git芒r yn swynol a'r caneuon 芒 rhyw dinc hafaidd iddynt - perffaith ar gyfer agor noson fel hon.
Cantores yr haf yw fy fferfryn i heno, ond mae'n set sy'n cynnwys sawl c芒n dda. Yr uchafbwynt yn sicr oedd pan redodd y prif leisydd allan at y gynulleidfa a dawnsio o gwmpas gyda'i git芒r.
Gogz sy'n ymddangos nesaf ac mae rhain ar eu gorau heno hefyd. Mae'r band yn sicr wedi elwa o gael aelod newydd yn chwarae gitar yn y band; mae eu caneuon newydd wedi aeddfedu ers eu e.p. cyntaf.