Un o ddarlithoedd mwyaf poblogaidd Pabell y Cymdeithasau hyd yn hyn oedd Hen Yd y Wlad gyda Huw Jones yn s么n am ddywediadau cefn gwlad.
Yr oedd pob sedd yn llawn yn y baell ar gyfer darlith awdur cyfrolau Termau Byd Amaeth y casgliad eithriadol o gynhwysfawr o ddywediadau a geiriau cefn gwlad.
Trefnwyd y ddarlith gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru ac ymhlith y dywediadau y bu Huw Jones yn s么n amdanyn nhw yr oedd:
Y dyn bia'r drol sef y dyn pwysicaf mewn unrhyw sefydliad. Y big cheese yn Saesneg mae'n debyg.
Clep melin - yn go iawn y ddyfais mewn melin oedd yn gwthio'r grawn trwy wddf yr hopran gan glepian wrth wneud hynny. Byddai rhywun 芒 siaradai fel clep melin yn siarad yn ddi-baid.
Gwynt carthen - y gwynt a fyddai'n cael ei gynhyrchu 芒 nithlen i wahanu'r grawn a'r us ar lawr dyrnu. Gwynt gwneud yn hytrach na gwynt go iawn. Byddai'n cael ei ddefnyddio er enghraifft i ddisgrifio pregethwr yn mynd i hwyl ffug trwy ddweud mai "gwynt carthen o bregeth" a draddododd.
Gwynt ffroen yr ych - gwynt y dwyrain. Daeth y dywediad o eirfa porthmyn o Gymru a fyddai'n gyrru eu hanifeiliaid i Loegr. Pan fyddai'r gwynt o'r dwyrain byddai'n chwythu y poer a'r glafoerion o'u ffroenau i wynebau'r porthmyn oedd yn eu gyrru.
Enwau eraill am wynt y dwyrain yn 么l Huw Jones yw: Gwynt o'r hen Bengwern yn ardal yr eisteddfod gan gyfeirio at wynt o gyfeiriad Llys Cynddylan yn yr hen Amwythig. Gwynt milain y Sais eto ar y gororau. Gwynt Coch Amwythig yn yr un ardal. Gwynt Rwsia ym M么n. Gwynt Senghennydd ym Morgannwg.
Daeth Huw Jones, a gychwynnodd yn was fferm ym M么n cyn mynd yn weinidog a gwasanaethu yn Y Bala a'i ddarlith i ben gyda'r ymadrodd gogleisiol, talcen i芒r.
"Yr oedd iar y peth salaf ar fferm a thalcen i芒r y rhan ohoni gyda'r lleiaf o gig arno fo. Peth cwbl ddiwerth felly ydi talcen i芒r.
Ond ni chytunodd neb a Huw Jones pan awgrymodd efallai iddynt hwythau gael talcen i芒r o ddarlith y pnawn hwnnw!