麻豆官网首页入口

Explore the 麻豆官网首页入口
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2003

麻豆官网首页入口 Homepage
Cymru'r Byd

Eisteddfod 2003
Mwy o'r Maes
Newyddion
Lluniau'r Wythnos
Cefndir
Cysylltiadau



Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

O'r Maes
Dyddiadur Maes B - Sadwrn

Lowri JohnstonA'n gwaredo - cael gwared o Maes B?
Y detholiad olaf o ddyddiadur Maes B Lowri Johnston.





Y diwrnod olaf yma ar faes yr Eisteddfod ac mae'n grasboeth allan yn yr haul - ac hyd yn oed yn boethach mewn pabell!

Yn anffodus mae rhai o'n ffrindiau i yn gadael heddiw felly dweud hwyl fawr yn y bore cyn mynd mewn i'r maes i gael gwario'r ychydig arian sydd gen i ar 么l. Dwi ddim yn gweithio heddiw felly cyfle i fynd o gwmpas y stondinau yn iawn a prynu crys-T a cd neu ddau!

Gweld Anweledig
Draw i'r babell roc unwaith eto (ac am y tro olaf yn anffodus!) i weld Anweledig sy'n hollol wych fel arfer. Mae'r lle yn llawn dop a dwi'n synnu faint o egni sydd gan Ceri (llais) yn y gwres!

Mae'n cyflwyno y gan Sianel Hanes trwy ddweud;
'Ma' na bobl yn deud mewn ugain mlynedd byddan ni'r Cymry ar Sianel Hanes. Pobl fel chi, fel fi, sydd mynd i wneud yn siwr byddwn ni byth ar unrhyw fath o sianel hanes."

Mae'n amlwg pa mor bwysig yw'r Eisteddfod a digwyddiadau Cymraeg o'r fath felly - a pha mor bwysig yw hi i ddenu pobl ifanc iddyn nhw.

Ar 么l gweld Anweledig rydyn ni'n mynd yn 么l i'r babell i gael g锚m fach o gardiau! Yn anffodus dwi ddim yn ennill - y lleill yn cafflo yn fy marn i! (Er eu bod nhw'n gwadu!) Neu efallai nad ydw i'n dda iawn yn chwarae cardiau

Ta beth, amser i gael barbeiciw cyflym sy'n flasus iawn cyn mynd draw i faes B am y tro ola' efallai (tynnwch eich hancesi allan!).

Mae'r lle yn reit llawn pan ydym ni'n cyrraedd ond nid mor llawn ag a fu.

Dau sy'n plesio
Bechdan Jam ac Eryr sy'n agor y noson - trueni eu bod nhw ymlaen yr un pryd gan fy mod i eisiau gweld y ddau! Felly gweld dechrau set Bechdan Jam wedyn un Eryr, a'r ddau yn plesio'n fawr!

Mynd i eistedd tu allan wedyn gyda ffrindiau i gymdeithasu.

Ar 么l gweld Mahirishi sy'n swnio ychydig yn fflat heddiw - rydyn ni'n mynd i'r llwyfan arall i weld Pep Le Pew sy'n gr锚t. Maen nhw'n ysgogi pawb i ddawnsio ac i gael hwyl.

Geraint Jarman yw prif fand y noson. Dyw e ddim ar ei orau heno ac heb gyfathrebu llawer gyda'r gynulleidfa.

Yn fy marn i, dylai maes B fod wedi rhoi prif slot yr wythnos i fand ifancach.. Mae digon o fandiau o gwmpas sy'n ddigon da i chwarae a dyma sut mae rhoi profiad iddyn nhw. Ond, mae'n debyg mai denu cynulleidfaoedd sydd ar feddwl yr Eisteddfod, felly Jarman amdani ynte.

Creisus cyn cychwyn
Dwi wedi blino'n ofnadwy heno felly syth n么l i'r babell ar 么l y gig a chysgu'n drwm tan y bore gan gael fy nihuno gan gawod drom o law a sŵn taranau! Typical

Erbyn inni gael popeth yn barod a phacio'r babell mae wedi stopio bwrw glaw ac mae'n amser gadael.

Un creisus bach arall cyn gadael yw'r car yn cau cychwyn ond ymhen tipyn mae'n tanio diolch byth!

Dwi wedi cael wythnos wych joio mas draw! Ond dwi'n barod i fynd adre erbyn hyn, ac yn edrych ymlaen at gael cawod neis. bwyd maethlon a digon o gwsg!

A'n gwaredo!
Anodd yw credu fod yr Eisteddfod yn meddwl cael gwared a Maes B byddai'n golled fawr gan ei fod yn rhoi llwyfan da i'n bandiau ni yma yng Nghymru.

Fel dwedodd Bryn Fon nos Wener;
"Mae heno wedi dangos yn glir bod yna angen am faes B a'r golled fyddai hebddo."

Tan y tro nesa' felly






Yn fyw o'r llwyfan


Gwegamera'r Maes

Ble mae'r Bardd ?
Sgyrsiau ar lein

Geiriau Croesion

Eisteddfod Celf a Chrefft 2003

Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
Cefndir

Cofio helynt coron Dyfnallt

Cyhoeddi Cerddi Powys

Dau lyfr am Faldwyn

Enwau lleoedd diddorol

Geiriau bro'r Eisteddfod

Aelodau newydd Gorsedd y Beirdd

Prysurdeb trefnydd

Syched am wybodaeth yn Sycharth

Enwogion Bro'r Eisteddfod

Adnabod yr ardal - wyddech chi hyn?

lluniau'r wythnos
Eisteddfod Meifod - lluniau dydd Sadwrn

Lluniau dydd Gwener

Mwy o luniau o'r Orsedd wedi ymgynull

Gorsedd y Beirdd yn paratoi i ymgynull

Lluniau dydd Iau

Lluniau dydd Mercher

Oriel "Nics"

Lluniau dydd Mawrth

Lluniau dydd Llun

Ioan Gruffudd ym Meifod (2)

Ioan Gruffudd ym Meifod (1)

Lluniau dydd Sadwrn a Sul

Lluniau'r ardal

O'r Maes

"Steddfod yn Stuffy"

Llawenydd Patagonaidd am fuddugoliaeth Twm

Hywel Gwynfryn - dyddiadur Steddfod 4

Gwisgo Ioan Gruffudd ar gyfer yr Orsedd!

Hywel Gwynfryn - dyddiadur Steddfod 2

Yr arddangosfa Gelf a Chrefft

Hywel Gwynfryn - dyddiadur Steddfod 3

Cysylltiadau eraill


About the 麻豆官网首页入口 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy