麻豆官网首页入口

Explore the 麻豆官网首页入口
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

麻豆官网首页入口 VOCAB : OFF / I FFWRDD

Turn on / Troi ymlaen

Language Help / Cymorth Iaith


麻豆官网首页入口 Homepage
Hafan Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Straeon

Cyngherddau'r Wyddgrug

Gorffennaf 2007

image alt

Rhys Meirion a Ll欧r Williams i serennu

Cafodd y rhai oedd yn bresennol mewn cynhadledd i'r wasg i gyhoeddi'r manylion am gyngherddau Eisteddfod Genedlaethol Yr Wyddgrug eleni eu cyngerdd bach eu hunain.

Gwefreiddiwyd y 'gynulleidfa' fechan o arweinwyr llywodraeth leol, newyddiadurwyr ac aelodau o bwyllgorau lleol yr Eisteddfod oedd wedi ymgasglu ym mhencadlys Cyngor Sir Y Fflint, ddydd Iau mawrth 23, gan unawd ar y piano gan Ll欧r Williams a fydd yn perfformio yng nghyngerdd olaf y Brifwyl.

Athrylith

Disgrifiwyd y pianydd rhyngwladol o ardal Rhosllannerchrugog fel g诺r "a'i athrylith ym mhennau'i fysedd," gan Aled Lloyd Davies, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod.

Hwn fydd y tro cyntaf i Ll欧r Williams - sy'n cael ei ystyried ymhlith pianyddion gorau'r byd - gymryd rhan yn un o gyngherddau'r Eisteddfod Genedlaethol.

Yn wir, dim ond unwaith y mae wedi hyd yn oed gystadlu yn y Genedlaethol a hynny pan enillodd ysgoloriaeth Pegi a Maldwyn Hughes yn 1999 ac yntau'n fyfyriwr yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain.

Ni chystadlodd na chynt nac wedyn.

"Unwaith yr oeddwn wedi'i hennill doedd yna ddim pwynt wedyn," meddai.

Cofio David Lloyd

Yn bresennol hefyd yn y gynhadledd i'r wasg yn swyddfeydd y sir yn Yr Wyddgrug yr oedd un arall o artistiaid lleol yr ardal, y tenor Rhys Meirion a fydd yn canu nos Iau yr Eisteddfod mewn cyngerdd er cof am yr enwocaf o denoriaid Cymru, David Lloyd.

Cafwyd rhagflas o'r arlwy hwnnw hefyd yn y gynhadledd i'r wasg wrth iddo ganu, i gyfeiliant Ll欧r Williams, ddwy o ganeuon adnabyddus David Lloyd.

"Dyma'r tro cyntaf i Rhys gyfeilio imi," meddai wedyn. "Gobeithio y daw yna gyfle eto."

Gwefr ychwanegol

Dywedodd Rhys Meirion ei fod yn arbennig o falch o'r gwahoddiad i ganu yn yr Eisteddfod Genedlaethol hon ac yntau'n byw ger Rhuthun ar gyrion ei dalgylch.

Yr oedd cael talu teyrnged i David Lloyd yn wefr ychwanegol.

"Yr oedd o'n arwr mawr i mi - rydw i'n cofio ei lais ar y radio pan oeddwn yn fychan iawn - rhwng capel a chinio ar foreau Sul.

"Ei lais o yn fy nghlustiau ac arogl y cinio dydd Sul yn fy ffroenau.

"A phan benderfynais i fynd i ganu fel unawdydd ei record o oedd y gyntaf imi brynu ac mi wrandawais i arni drosodd a throsodd a throsodd a chael ysbrydoliaeth," meddai.

Y cyngherddau

Mae'r tocynnau ar gyfer y ddau gyngerdd yma a phedwar arall ar werth o Fawrth 1, 2007 ac mae llinell ff么n - 0845 122 1176 - ar gyfer archebu yn agored rhwng deg a phedwar o'r gloch o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Dyma fanylion y cyngherddau:

  • Cyngerdd 芒 blas lleol fydd un cyntaf yr Eisteddfod, nos Wener Awst 3, gyda Dylan Cernyw ac Annette Bryn Parri, Dewi Ellis Jones, Cantorion Colin Jones, C么r H欧n Ieuenctid Sir Fflint, Dawnswyr Nantgarw a Caryl a'r Band.
  • Nos Sadwrn llwyfennir cynhyrchiad Clwyd Theatr Cymru o'r sioe plant, "Y Fordaith Fawr" gyda thros 400 o blant ysgolion cynradd Sir Y Fflint.
  • Bydd Cymanfa Ganu ar y nos Sul dan arweiniad Goronwy Wynne Tim Stuart wrth yr organ.
  • Nos Lun bydd Dafydd Iwan ac Ar Log yn ddathlu 25 mlynedd o berfformio gyda'i gilydd.
  • Nos Fawrth bydd cyngerdd gan G么r yr Eisteddfod ynghyd 芒 thri enillydd Rhuban Glas- Iona Jones, Aled Wyn Davies ac Iwan Wyn Parry - gyda Cherddorfa Ensemble Cymru ar y nos Fawrth.
  • Nos Iau bydd Rhys Meirion yn canu ei hoff ganeuon David Lloyd gyda Chorau Meibion Unedig yr ardal.
  • Yna'r nos Sadwrn daw'r Eisteddfod i ben gyda chyngerdd lle bydd Ll欧r Williams, y tenor Gwyn Hughes Jones a Cherddorfa Camerata Manceinion yn perfformio rhaglen yn cynnwys Concerto Rhif 2 Rachmaninov, Yr Hebredies - Ogof Fingal a chaneuon gan Meirion Williams.

"Y mae yma wledd sy'n mynd i apelio at bawb," meddai Aled Lloyd Davies.



About the 麻豆官网首页入口 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy