Beicwyr dewr Hydref 2006 Mae Eurwyn Hughes o Lannerchymedd i'w edmygu a'i longyfarch oherwydd mae wedi bod yn hynod o brysur yn codi arian tuag at Uned Trawsblaniad yr Arennau yn Ysbyty Wythenshaw, Manceinion.
Cafodd Sioned lawdriniaeth arbennig yno yn ddiweddar.
Trefnodd Eurwyn amryw o weithgareddau ac yn eu plith roedd Reidio Beic Noddedig o gwmpas yr ynys ac hefyd Noson o Adloniant yng Ngwesty Tafarn y Rhos lle tynnwyd Raffl Fawr.
Roedd yn noson lwyddiannus dros ben. Nid yw cyfanswm y gweithgareddau wedi dod i law eto - byddant yn cael eu cyhoeddi yn y man.
Yn y llun gwelir y beicwyr yn cychwyn ar eu taith o Dafarn y Rhos - gyda llaw dim ond un dyn bach aeth ar goll!