Pêl-droed yng Nghymru
top![Gêm bêl-droed yn Stwdiwm y Mileniwm](/staticarchive/a5560ae9b7a9af6a9b7c5bf02ac57c9822b4cf83.jpg)
O ffurfio'r Gymdeithas Bêl-droed mewn tafarn i uchelfannau Cwpan y Byd 1958: cip ar hanes pêl-droed Cymru.
gan Gary Pritchard
Mae'n deg dweud nad oes unrhyw un yn hollol siŵr ym mha le nac ychwaith pa bryd y chwaraewyd y gêm bêl-droed gyntaf yng Nghymru, ond un peth sy'n sicr yw bod y bêl gron wedi bod yn rhan annatod o chwaraeon Cymru ers blynyddoedd maith.
Tan yn gymharol ddiweddar roedd lle i gredu mai clwb enwog y Derwyddon, ffurfiwyd ym 1869 ym mhentref Plasmadoc, oedd y clwb hynaf yng Nghymru.
![Y Cae Ras yn Wrecsam](/staticarchive/c970596fba9741cfde4bb5aaa4692fba5e737138.jpg)
Ond mae gwaith ymchwil gan rai o gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi dadorchuddio tystiolaeth sy'n profi fod y Dreigiau wedi ei ffurfio ym 1864 - wyth mlynedd yn gynharach na'r hyn roedd pawb yn ei gredu'n wreiddiol.
Yn ôl adroddiad yn y Wrexham Advertiser ym mis Hydref 1864, chwaraeodd Wrecsam gêm 10-bob-ochr yn erbyn Brigâd Dân Tywysog Cymru, gyda'r dynion tân yn ennill, ac yn ennill "yn rhwydd" yn ôl y gohebydd!
Er bod sawl clwb yn bodoli yng ngogledd orllewin Cymru, bu rhaid disgwyl tan 1876 cyn i bwyllgor ddod at ei gilydd er mwyn ffurfio Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
Llewelyn Kenrick , cyfreithiwr o Riwabon, oedd yn gyfrifol am sefydlu'r gymdeithas a hynny yn dilyn ei lythyr yng nghylchgrawn "The Field" yn galw am bêl-droedwyr Cymreig oedd â diddordeb herio'u cyfoedion o'r Alban.
![](/staticarchive/da5462625058075007a4b31d4f5f38e7980a15a9.jpg)
Fel pob stori dda, mae stori Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn dechrau mewn tŷ tafarn, er, fel Cymdeithas Bêl-droed Cambria daeth y gwŷr bonheddig at ei gilydd am y tro cyntaf yn y Wynnstay Arms yn Rhiwabon.
Gyda'r trafodaethau a'r cynllunio yn mynd yn eu blaen, tarfwyd ar y cyfarfod gan y plismon lleol. Roedd yr heddwas yn cwyno fod oriau agor y dafarn wedi hen fynd heibio a bod angen dod â'r cyfarfod i ben.
Yn ffodus i'r pwyllgor roedd Syr Watkin Williams-Wyn yn y cyfarfod ac yn rhinwedd ei swydd fel yr Ynad Heddwch lleol ac Aelod Seneddol Sir Ddinbych, brasgamodd i'r Llys drws nesaf er mwyn ymestyn oriau swyddogol y gwesty!
Y blynyddoedd cynnar
Colli oedd hanes Cymru yn y gêm hanesyddol yn Glasgow gyda'r Albanwyr hefyd yn fuddugol yn y gêm gyfatebol ar Y Cae Ras, Wrecsam flwyddyn yn ddiweddarach.
Yn wir bu rhaid disgwyl tan 1881 cyn i Gymru sicrhau buddugoliaeth rhyngwladol am y tro cyntaf pan rwydodd John Vaughan o glwb Y Derwyddon unig gôl y gêm yn erbyn Lloegr yn Blackburn.
Erbyn 1884 gyda'r bedair gwlad Brydeinig; Cymru, Iwerddon, Lloegr a'r Alban, yn herio ei gilydd yn flynyddol, penderfynodd y pedair Cymdeithas Bêl-droed ffurfio pencampwriaeth swyddogol, Pencampwriaeth y Pedair Gwlad.
Cafwyd patrwm digon sefydlog i'r gystadleuaeth o ran y Cymry gyda buddugoliaethau rhwydd yn erbyn Iwerddon yn dilyn crasfeydd rheolaidd gan Loegr!
![Billy Meredith ar y cae](/staticarchive/cef82593c546aebee0658f47619db2b03b10f9b5.jpg)
Roedd Lloegr a'r Alban yn llwyr reoli'r gystadleuaeth gyda'r Saeson yn ennill 10 pencampwriaeth, Yr Alban 9 a chyda'r ddau hen elyn yn rhannu tair pencampwriaeth cyn i Gymru ennill yr un.
Ond ym 1907, gyda seren Manchester United, Billy Meredith, a chapten Manchester City, William Lot Jones, yng nghanol cae, llwyddodd Cymru i drechu Iwerddon a'r Alban cyn sicrhau gêm gyfartal â Lloegr i ennill y bencampwriaeth am y tro cyntaf yn eu hanes.
Oes Aur y 1930au
Mae'n deg dweud bod Cymru yn un o dimau gorau'r byd yn ystod y 1930au ond oherwydd ystyfnigrwydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru ni chafodd y chwaraewyr gyfle i brofi hynny ar y llwyfan rhyngwladol.
Gyda Tommy Griffiths yn gawr yng nghanol yr amddiffyn a Dai Astley o Ferthyr yn arwain y llinell flaen, llwyddodd Cymru i ennill Pencampwriaeth y Pedair Gwlad ar dair achlysur yn ystod y ddegawd, ym 1932/33, 1933/34 a 1936/37 - yn wir dyma oedd y tro diwethaf i Gymru ennill y bencampwriaeth yn llwyr.
![Ivor Allchurch yn chwarae i Gymru yn erbyn Denmark](/staticarchive/6eccd2bf718c9cfac25b08b7e027ae3dabb45eb5.jpg)
Ond roedd Cymdeithas Bêl-droed Cymru, ynghyd â Chymdeithasau Pêl-droed Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban, wedi gadael FIFA, corff llywodraethol y byd pêl-droed, ym 1928 yn dilyn ffrae dros daliadau i chwaraewyr amatur.
O'r herwydd ni chafodd y Cymry gyfle i gymryd rhan yng nghystadleuaeth Cwpan y Byd 1930, 1934 na 1938. A dim ond dwywaith chwaraeodd Cymru yn erbyn gwrthwynebwyr tu allan i'r pedair wlad Prydeinig a hynny yn erbyn Ffrainc ym Mharis lle cafwyd dwy gêm gyfartal 1-1 ym 1933 a 1939.
Cwpan y Byd 1958
Mae pob cefnogwr Cymru gwerth ei halen yn gwybod am dîm Cwpan y Byd 1958.
Dyma oedd y tîm gorau erioed i wisgo crys coch Cymru yn nhyb llawer i gefnogwr a chyda chwaraewyr fel Jack Kelsey, Mel Hopkins, Dave Bowen, Cliff Jones, Ivor Allchurch a Mel a mae'n anodd iawn dadlau yn erbyn y datganiad!
![John Charles](/staticarchive/5dbb1ad014519ff06bde4b525da5f5c4e78ed9f9.jpg)
Am unwaith, lwc oedd yn gyfrifol am ymweliad Cymru â Chwpan y Byd. Roedd tîm Jimmy Murphy wedi gorffen yn ail yn eu grŵp rhagbrofol tu ôl i Tsiecoslofacia, ond ar ôl trechu Israel mewn gemau ail gyfle fe wnaeth y Cymry y mwyaf o'u cyfle yn Sweden.
Llwyddodd Cymru i gyrraedd rownd yr wyth olaf, ond gyda'u harwr, John Charles, yn colli'r gêm oherwydd anaf, llwyddodd Edson Arantes do Nascimento, neu Pele i'w ffrindiau, i dorri calonau'r Cymru gydag unig gôl y gêm.
Boddi yn ymyl y lan
Yn anffodus i gefnogwyr pêl-droed Cymru, 'dyw'r tîm pêl-droed erioed wedi cyrraedd un o bencampwriaethau mawr y byd pêl-droed ers 1958.
![John Toshack](/staticarchive/0334411af5596a5bb54d259d6aa525529d848e7e.jpg)
Llwyddodd tîm Mike Smith oedd â sêr fel Dai Davies, Joey Jones, Arfon Griffiths, John Mahoney, Brian Flynn, Leighton James a John Toshack i gyrraedd rownd wyth olaf Pencampwriaeth Ewrop ym 1976, ond bryd hynny dim ond y pedwar tîm yn y rowndiau cynderfynol oedd yn chwarae yn y rowndiau terfynol.
Ac er i rai o fawrion pêl-droed Ewrop a'r byd fel , Kevin Ratcliffe, ac chwarae yng nghrys coch Cymru trwy gydol y 1980au, boddi yn ymyl y lan wnaeth Cymru.
Methodd Cymru â chyrraedd Cwpan y Byd 1982 a 1986 ar wahaniaeth goliau yn unig a phwynt yn unig oedd yn gwahanu Cymru ac Iwgoslafia oedd ar frig Grŵp Rhagbrofol 4 ar gyfer Pencampwriaethau Ewrop 1984.
A doedd pethau ddim llawer haws yn y 1990au ychwaith - roedd colled gartref yn erbyn Romania yng ngêm rhagbrofol olaf Cymru ym 1993 yn golygu na fyddai Terry Yorath a'i dîm ar awyren i Gwpan y Byd yn America y flwyddyn ganlynol.
Ac yna yn y Mileniwm newydd roedd na dor-calon yn Stadiwm y Mileniwm hefyd wrth i Vadim Evseev rwydo unig gôl y gêm i Rwsia yng ngêm ail gyfle Ewro 2004.
Y dyfodol
Am wlad mor fechan mae Cymru'n parhau i gynhyrchu sêr y bêl gron a chydag Aaron Ramsey, Gareth Bale a Joe Allen yng nghanol cae efallai ... efallai ... cawn edrych yn ôl ar Gwpan y Byd arall rhyw ddydd ...
Gary Pritchard, 2012