麻豆官网首页入口

Glo

Cefndir glo Cymru

19 Ionawr 2009

Defnyddiwyd glo gan bobl ers miloedd o flynyddoedd thyfodd ei gloddio yn ddiwydiant enfawr yng Nghymru pan ar ei anterth - ond o ble y daeth yr 'aur du' yma?

Mae glo yn danwydd ffosil sydd yn cael ei greu wrth i goed a phlanhigion marw gael eu gorchuddio gan dd诺r a mwd.

Tros filoedd o flynyddoedd bydd y tymheredd a'r gwasgedd yn ffurfio mwyn cyfoethog dan ddaear.

Er mwyn cael digon o l么 i gyfiawnhau ei godi o'r ddaear mae'n rhaid bod swm enfawr o blanhigion a choed wedi tyfu a marw yn y gwlyptir.

Dri chan miliwn o flynyddoedd yn 么l, a Chymru'n gorwedd yn agos iawn i'r cyhydedd, roedd yr amodau'n berffaith ar gyfer ffurfio glo.

Defnydd cynnar Defnyddiwyd glo ym Mhrydain ers yr Oes Efydd - 2,000-3,000 o flynyddoedd cyn Crist. Mae tystiolaeth iddo gael ei ddefnyddio fel rhan o goelcerthi angladdol ac fe fu'r Rhufeiniaid yn cloddio am lo ar hyd a lled Prydain.

Nid tan yr Oesoedd Canol y gwelwyd mwyngloddio ar raddfa ehangach fodd bynnag a dyma pryd y dechreuwyd sincio siafftiau yn hytrach na chrafu'r wyneb am lo-brig fel cynt.

Erbyn y 15fed ganrif, roedd pyllau glo mewn sawl rhan o Gymru - yn arbennig yn y gogledd ddwyrain a'r de. Yna, yn ystod y 16eg a'r 17eg ganrif, dechreuwyd allforio - yn bennaf o ardal Abertawe, Sir Benfro a Sir Y Fflint - ac fe gyflymodd y cynhyrchu.

Effaith y Chwyldro Diwydiannol Daeth y cynnydd mwyaf yn ystod y 18fed ganrif o ganlyniad i'r Chwyldro Diwydiannol a chynyddodd y galw am lo wrth i'r injan st锚m ddisodli'r olwyn dd诺r.

Gwnaeth yr injan st锚m hi'n bosibl i dyllu'n ddyfnach na chynt a chyrraedd haenau glo nad oedd yn bosibl eu gweithio cynt gan ei bod mor anodd cael gwared 芒'r d诺r o'r siafftiau.

Cyn yr injian st锚m y dull oedd, ei godi mewn bwcedi - gwaith llafurus ac araf iawn o'i gymharu 芒'i bwmpio gydag injian.


麻豆官网首页入口 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆官网首页入口

麻豆官网首页入口 漏 2014 Nid yw'r 麻豆官网首页入口 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.