| ![麻豆官网首页入口 Cymru'r Byd - Creu Cenedl](/staticarchive/d405f0dc2c3b31f089a640be90f50992244b13e0.jpg) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) Y
Rhyfel a'r Dirwasgiad
![faciw卯s yn ystod y Rhyfel Byd](/staticarchive/3be6a6539c665079328b52f571ad2c292404b6f1.jpg)
Faciw卯s yn ystod yr Ail Ryfel Byd
Effaith y Dirwasgiad
Y mae鈥檙 dirwasgiad yn rhoi terfyn ar y cynnydd diwydiannol a fu鈥檔
mynd ar garlam am ganrif a hanner. Y mae pobl yn gadael Cymru wrth
eu miloedd - 390,000 yn gadael rhwng 1925 a 1939. Nid yw poblogaeth
Cymru yn cyrraedd y rhif ydoedd yn 1925 tan 1973. Canlyniad y segurdod
di-ddewis yw ffataliaeth ac anobaith. Mae byw ar enillion bychan yn
cael effaith ar iechyd pobl ac ar gyflwr eu tai. Mae鈥檙 prawf moddion
- sy鈥檔 golygu llai o fudd-dal diweithdra os oes gan deulu incwm o
ffynhonnell arall - yn arwain ar wrthdystiadau enfawr, yn eu plith
protest ar 3 Chwefror 1935, gan hyd at 300,000 ar strydoedd Cymru.
Mae methiant ymddangosiadol cyfalafiaeth yn hwb i achos y Sosialwyr
a鈥檙 Comiwnyddion, sydd ar flaen y gad ym mhob protest. Mae鈥檙 dirwasgiad
yn yr ardaloedd diwydiannol yn ergyd i ddiwylliant y capeli a鈥檙 iaith
Gymraeg. Arweiniodd ffrae ynglyn 芒 chynorthwyo鈥檙 di-waith at gwymp
Llywodraeth Lafur 1929-31, ac ym marn y Llywodraeth Genedlaethol a
ffurfiwyd nid oedd dim i鈥檞 wneud ond aros i bethau wella. Yn 1937,
serch hynny, mae鈥檙 llywodraeth yn dechrau cynorthwyo cwmn茂au sy鈥檔
creu swyddi mewn ardaloedd o ddiweithdra uchel - gan sefydlu鈥檙 polis茂au
economaidd rhanbarthol hynny a fyddai mor fanteisiol i Gymru. Ond
er y swyddi newydd - yn enwedig mewn llefydd fel gwaith dur Glyn Ebwy
a stad ddiwydiannol Trefforest - a chynifer o bobl ddi-waith yn ymfudo,
nid yw economi Cymru yn gwella rhyw lawer. Yn y mis olaf cyn y rhyfel,
Awst 1939, mae 15.2% o wrywod yswiriedig Cymru yn ddi-waith.
Yr Ail Ryfel Byd
Y mae鈥檙 rhyfel yn datrys problem diweithdra, dros dro o leiaf. Erbyn
1941 mae gan bron bawb sy鈥檔 abl i weithio, swydd, ac mae canran y
menywod sy鈥檔 ymuno 芒鈥檙 gweithlu yn uwch yng Nghymru nag yn unrhyw
ran arall o鈥檙 Deyrnas Unedig. Ar ben hynny, mae鈥檙 rhyfel yn lladd
pymtheg mil o Gymry ac mae galw ar lawer mwy i fynd i weithio mewn
ffatr茂oedd yn Lloegr. Credir bod Cymru鈥檔 rhy bell i gyrchoedd awyr
yr Almaenwyr; mae鈥檙 holl faciw卯s swyddogol ac eraill sy鈥檔 ffoi rhag
y bomio yn ychwanegu rhyw ddau gan mil at rif y boblogaeth. Ond di-sail
yw鈥檙 gred bod Cymru鈥檔 ddiogel, fel y profodd y cyrchoedd ar Abertawe
yn Chwefror 1941. Serch hynny, mae nifer o ddiwydiannau rhyfel yn
cael eu sefydlu yng Nghymru, gan gynnwys stordai arfau enfawr ym Mhenybont
ar Ogwr. Y mae llai o alw am weithwyr yn y diwydiannau trymion, ac
mae hynny鈥檔 creu鈥檙 gobaith am fwy o amrywiaeth economaidd wedi鈥檙 rhyfel.
Oherwydd prinder bwyd mae鈥檙 ffermwyr yn cael mwy am eu cynnyrch. A鈥檙
rhyfel yn llusgo ymlaen mae yna benderfyniad yng Nghymru fel yng ngweddill
y Deyrnas Unedig na fydd ailadrodd holl helbulon y 1930au. A鈥檙 agwedd
meddwl yma yw鈥檙 brif ffactor yn llwyddiant ysgubol y Blaid Lafur yn
etholiad cyffredinol 1945.
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif)
|
![麻豆官网首页入口](/staticarchive/08bdb8504909af208c030c564f79f757c8c90c1d.gif) 漏 MM
|
听 |
听 |
|
|