麻豆官网首页入口


Explore the 麻豆官网首页入口

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆官网首页入口 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Barcelona - - Adeiladau hynafol Barcelona
gan Lowri Evans, o Beulah, Castellnewydd Emlyn

Barcelona! Nid y lle cynta' a ddaw i'ch meddwl wrth feddwl am wyliau yn y gaeaf - ond peidiwch â thwyllo'ch hunan!

Er bod y Nadolig yn ŵyl go wahanol i'r Catalaniaid, roedd bwrlwm y gwyliau yn y gwynt.

Braf, i ddechrau, oedd cael diosg y got law am siwmper denau, a'r ymbarél am het gynnes am dridiau. Er nad oedd y tymheredd yno yn ddim byd o gymharu â'r hyn yw yng nghanol yr haf yr oedd ychydig yn dwymach ac yn llawer sychach na Chymru fach ar y pryd, felly, gwyn oedd ein byd.

Strydoedd diddorolRoeddem yn ddigon ffodus o gael aros ar yr enwog Las Ramblas ei hun - stryd fawr hirfaith sy'n eich syfrdanu o'r newydd gyda phob ymweliad â hi.

Mae yno doreth o stondinau blodau a stondinau yn gwerthu anifeiliaid anwes.

Ond mae'n siŵr mai'r atyniad mwyaf yw'r diddanwyr di-ri - dwsinau o actorion sy'n cogio bod yn gerfluniau a cherddorion medrus yn bysgio.

Yn wir, roedd rhai o'r bysgwyr mor dalentog y byddent yn tynnu dŵr o ddannedd un o feirniaid y rhaglen X Factor.!

Mae yna rai llefydd sy'n rhaid ymweld â nhw os byth y mentrwch i Farcelona; y sw fôr, stadiwm Camp Nou, yr Eglwys Gadeiriol a stryd Las Ramblas.

Peidiwch ag ymadael â'r ddinas hon heb brofi ychydig o'r bwydydd lleol chwaith. Gallaf flasu'r paella bwyd môr dim ond wrth sôn amdano!

Ond, mae'n siŵr mai uchafbwynt y daith i mi oedd fy ymweliad ag un o hen strydoedd bach cefn y ddinas lle profir gwir hudoliaeth y ddinas.

Yno, rhwng sgwrs â thafarnwr nad yw'n deall gair o Saesneg a boliaid o tapas, seidr cartref a rhyw siotiau afiach o gryf, cewch weld nad dim ond dinas wedi ei Seisnigeiddio ar gyfer twristiaid mo Barcelona o gwbl wedi'r cyfan!

  • Cyhoeddir yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu i bapurau bro, ar y cyd rhwng 麻豆官网首页入口 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Am fwy o fanylion ac i wybod sut y gallwch ennill £30 am ysgrifennu - Cliciwch






  • ewrop

    Sbaen
    Llythyr o Sbaen

    ETA - eto

    ETA - cwestiwn ac ateb

    Y Sbaen Newydd

    Barcelona

    Ar fws ym Marcelona




    About the 麻豆官网首页入口 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy