|
|
Dwy flynedd yn China
Merch o Gymru yn helpu'r Tsieineaid ddysgu Saesneg Dydd Mercher, Chwefror 7, 200
|
Y mae merch ifanc o Gymru newydd adael am China lle bydd yn treulio dwy flynedd yn dysgu Saesneg i fyfyrwyr mewn coleg hyfforddi. Bydd Delyth Roberts o Langefni, Sir Fôn, sy'n medru siarad Tsieineeg, yn gweithio ar gynllun VSO mewn Coleg Hyfforddi Athrawon yn Yiyang yn nhalaith Hunan yn ne canolbarth China. Yn ystod ei chyfnod yno bydd yn cyfrannu i 麻豆官网首页入口 Cymru'r Byd. "Ardal wledig, ddifreintiedig yw hon ac yn dra gwahanol i ddinasoedd mawr fel Beijing a Shanghai," meddai Delyth. Dydi China ddim yn wlad gwbl ddieithr iddi, fodd bynnag. "Bum yn astudio ym Mhrifysgol y Bobl, Beijing, am flwyddyn rhwng 1997 a 1998," meddai. Dywedodd fod ganddi ddiddordeb mewn pethau Tsieineaidd er pan yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Llangefni pryd yr oedd ganddi gyfeillion-trwy-lythyr oddi yno. "Ac yr oeddwn yn darllen llawer am y wlad," meddai. Pan aeth i brifysgol yn Durham, Ffrangeg a Tsieineeg oedd ei phynciau. Disgrifiodd yr iaith fel un "anodd ofnadwy" i'w dysgu ar y cychwyn oherwydd ei bod mor wahanol i ieithoedd eraill yr ydym ni yn fwy cyfarwydd a hwy. "Un anhawster yw fod pedair tôn i'r iaith pan ydych yn ynganu ac y mae ynganiad yn newid ystyr gair," meddai. Mae'n un o griw o 30 sy'n mynd i China yn awr a bydd cartref yn cael ei baratoi iddi yn y coleg a bydd yn derbyn cyflog lleol.
|
|