麻豆官网首页入口


Explore the 麻豆官网首页入口

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆官网首页入口 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Diemwntau Cyfoeth Affrica yn creu tlodi a dioddef
Dydd Mercher, Mehefin 28, 2000

gan Diarmuid Johnson

Ddechrau'r flwyddyn, canolbwyntiodd Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig am fis ar y cyfandir tlotaf yn y byd.

Hwn oedd "Mis Affrica".

Mae cyflwr Affrica - y gwledydd du yn enwedig - yn destun anobaith i wleidyddion, i economegwyr ac i weithwyr dros hawliau dynol.

Mae AIDS yn rheibio'r boblogaeth mewn sawl gwlad.

De Affrica sydd waethaf. Erbyn y llynedd dioddefai bron i 10% o'r boblogaeth o AIDS gyda 50,000 achos newydd bob mis.

Y mae un plentyn allan o bob tri yn cael y clefyd yn y groth. Mae 200,000 o blant yn amddifad oherwydd AIDS.

Mae tlodi dibendraw yn y gwledydd islaw y Sahara:

Mae 45% yn llwgu.
Dim ond 15% o'r boblogaeth sydd â safon byw a all gynnal unrhyw dwf economaidd.
Mae'r llifogydd Mozambique wedi dadwneud gwelliannau y deng mlynedd cynt.
A'r sychder yn Ethiopia yn bygwth er gwaethaf pob cymorth.


Rhyfel yw gwraidd y drwg mewn sawl lle:
Angola, Somalia, Sudan, Burundi, a Rwanda, Sierra Leon.

Credir i 1.7 miliwn o bobl farw mewn ugain mis yn y Congo. Mwy na hanner poblogaeth Cymru.

A'r tu ôl i'r anhrefn a'r rhyfel y mae'r diwydiant diemwntau. Diemwntau Rhyfel yw'r enw arnyn nhw bellach.

Yn Affrica y mae pedair o'r pum gwlad bwysicaf yn y byd sy'n cynhyrchu diemwntau - Botswana (1af), De Affrica (3), Angola (4), Namibia (5).

Wedyn y mae Congo (7), Sierra Leon (10), Guinea a Tanzania.

Bu'r holl fwyngloddio yn Sierra Leon ar dir dan reolaeth Foday Sankoh, arweinydd yr RUF, byddin y gwrthryfelwyr.

Yn y Congo, yn nwyrain Kasai, mewn lle ô'r enw Tshibua, mae 500km sgwar yn cael ei ddatblygu gan Oryx Diamonds, consortiwm sydd eisiau cofrestru ar gyfnewidfa stoc Llundain.

Credir y byddai 20% o'r elw yn eiddo i lywodraeth Laurent-Desire Kabila, llywydd y Congo, 40% i Oryx, a 40% i Zimbabwe am fod llywodraeth Mugabe wedi cefnogi Kabila yn erbyn y gelyn o Uganda a Rwanda.

Anodd tu hwnt rheoli gwerthiant y diemwntau. Mae'n nhw yn cael eu hanfon drwy wledydd eraill ac yn cael eu ffug-labelu cyn cyrraedd marchnad Ewrop, yn Anvers, Gwlad Belg, gan fwyaf.

Mae'r gymdeithas Global Witness am i'r mewnforwyr osod amodau llym cyn derbyn y tlysau. Dim ond wrth rwystro unbeniaid Affrica rhag elwa arnyn nhw y gellir eu rhwystro rhag prynu arfau a thalu am eu hymgyrchoedd milwrol.






ewrop

De Affrica
Cyfoeth Affrica yn creu tlodi a dioddef

Gwewyr De Affrica




About the 麻豆官网首页入口 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy