麻豆官网首页入口


Explore the 麻豆官网首页入口

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆官网首页入口 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


hurling Gêm y Gwyddyl
Diarmuid Johnson yn trafod hurling

Dydd Mercher, Hydref 4, 2000

Mae hurling yn gêm roes ias yng nghalon y Gwyddyl ers mil o flynyddoedd. Fis Medi mae'r ias honni ar ei dwysaf pan fydd y ddau dîm gorau yn Iwerddon yn cwrdd yn Groke Park i frwydro am y gwpan McCarthy. De Iwerddon yw gwir gartref hurling, ond mae traddodiad balch a chryf yn Antrim a Derry, hefyd.

Serch hynny siroedd Cork, Kilkenny, a Tipperary fu gryfaf yn ystod y ganrif ers sefydlu'r GAA (Gaelic Athletic Association), gyda Wexford, Waterford a Limerick bob amser wrth y drws, a Galway, Offaly a Clare i gyd wedi cael eu tro yn y cyfnod modern.

Yn y deng mlynedd ddiwethaf mae hurling ar i fyny. Wrth i'r gweithlu ddychwelyd i'r Ynys Werdd mae mwy o'r tô ifanc yn ailafael yn y camán. Eleni, Kilkenny ac Offaly fu wyneb yn wyneb. Llwyddodd Kilkenny i gyrraedd y ffeinal llynedd a'r flwyddyn gynt, ond colli wnaethon nhw.

Chwareuon nhw yn danbaid a ffyrnig ddydd Sul gan drechu'r gelyn o 30 pwynt i 17 yn y senior final. Ym mhencampwriaeth y rhai dan 18 oed - y minor final - Galway a drechodd Cork, ac yn y gêm dan 21 oed, Limerick oedd yr enillwyr.

Y gêm genedlaethol

Hurling yw gêm genedlaethol Iwerddon, nid pêl droed na rygbi. Mewn chwaraeon rhyngwladol fel y rhai hynny, a chwaraeon y Gêmau Olympaidd, mae cyfle i'r goreuon ennill clod byd-eang. Fel Barry John, JPR Williams a Neil Jenkins. Ond llawn cymaint o arwyr yw Jamsie O'Connor (Clare), John Lahey (Tipperary), Joe Errity (Offaly) a D J Carey, y dewin diymhongar sy'n sgorio i Kilkenny.

Eto i gyd, mae clod D J Carey yn fyd-eang erbyn hyn. Yn Woodside, Efrog Newydd yr oeddwn i yn 1998 pan sgoriodd e ddwy gôl yn erbyn Offaly. A'r Sul diwetha wrth iddo ddisgleirio eto - fel C Chulainn yn yr epig Táin B Chuailgne - yn Flanagan's Bar, yng Ngwlen, yr Almaen yr oeddwn. 'Da was', meddai pawb.

Os cewch gyfle, gwyliwch gêm hurling - 'iomáint' yn yr Wyddeleg. Gellir ei gweld ar sianel Setanta, sianel chwaraeon Celtaidd sy'n darlledu ym Mhrydain ac yn Ewrop.





ewrop

Iwerddon
Cyhuddiad o dwyll ac ystryw yn Iwerddon

Cyhuddiad o dwyll ac ystryw yn Iwerddon

Diffodd fflamau'r Sipsiwn

Blagur gwyrddion ar y lleiniau newydd

Gêm y Gwyddyl

Harddwch a hanes yn cael ei guddio gan dristwch

Adlais o'r hen drefn Saesnig yn Iwerddon

Gaeleg ar y teli

Prisiau tai yn dychryn y Gwyddelod




About the 麻豆官网首页入口 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy