John Daniel Evans - cyhoeddi llyfr am El Baqueano
Adolygiad gan Elvey MacDonald o Bywyd a gwaith John Daniel Evans - El Baqueano. Un o arwyr mawr Patagonia.
"Dyma gyfrol y bu disgwyl awchus amdani ers hydoedd. Dros ddeugain mlynedd yn ôl awgrymodd y ddiweddar Brifardd R. Bryn Williams, prif hanesydd y Wladfa, na cheid difyrrach llawysgrifau na rhai'r Baqueano, ac y dylid eu cyhoeddi," meddai Elvey MacDonald.