![Arwel Roberts - yn barod i ysgwyddo'r bai!](/staticarchive/4f7ca4399487930c833784dbd8441ee55649a305.jpg)
Dyddiadur Dyddiol (2)
Briwsion bob dydd
Nodiadau dyddiol o faes yr Urdd
Yr oedd cryn siarad ar faes yr Urdd fore ddoe am y ciw.
Nid yn gymaint y Cyw oedd yno i dynnu sylw at ddarpariaeth newydd rhaglenni plant S4C ond y ciw o geir oedd yn ymestyn ar un adeg yr holl ffordd o fynedfa'r Eisteddfod i'r A55 yn 么l rhai.
Trafferthion traffig cyntaf yr 糯yl a hynny yn y glaw cyntaf i syrthio.
Ond er nad oedd yr haul yn gwenu dim ond dan draed yr oedd hi'n wlyb ac ni tharfodd hynny rhyw lawer ar yr 20,087 a ddaeth yno.
Mwy na hyn
Mae yna ymadroddion y mae rhywun yn eu clywed yn aml yn ystod Eisteddfod yr Urdd.
Mae "Yn fraint ac yn anrhydedd" ac "Mae nyled i'r Urdd" yn eu plith.
Un arall a glywir sawl gwaith yn ystod pob Eisteddfod yw fod yr Urdd fel mudiad yn fwy, yn llawer mwy, na dim ond Eisteddfod.
Ac fe'i dywedwyd am y tro cyntaf eleni yn ystod cynhadledd i'r Wasg fore ddoe gyda'r Prif Weithredwr, Efa Gruffudd Jones, yn rhibidiresu ystadegau i brofi'r pwynt.
Dros 35,000 wedi cymryd rhan yng ngweithgareddau chwaraeon yr Urdd.
Dros gant o ysgolion cynradd yn cymryd rhan mewn cystadlaethau traws gwlad cenedlaethol fis Mai.
![Efa Gruffudd Jones](/staticarchive/870848444cbc0ff8bd6a2eb7253df654441a197a.jpg)
Cynnydd o 22 o dimau p锚l-droed uwchradd ym mhencampwriaeth y mudiad.
Ac mewn twrnamaint rygbi saith dyn fis Ebrill, 147 o dimau'n cystadlu gan wneud hon y gystadleuaeth Rygbi Saith Bob Ochr fwyaf yng Nghymru!
"Yr Urdd," meddai, "yw'r unig gorff sy'n cynnig pencampwriaethau cenedlaethol mewn ystod eang o gampau yn cynnwys nofio, p锚l-droed, rygbi, traws gwlad ac aquathon."
Ac nid math o ddillad isaf ydi hwnnw - aquathong!
Canmolodd hefyd y ffaith i'r nifer o wirfoddolwyr ifanc a dderbyniodd hyfforddiant wedi ei achredu ddyblu i 323.
"Mae chwaraeon," yn ddull gwych o ddenu pobl ifainc i ddefnyddio eu Cymraeg," meddai Efa Gruffudd Jones.
Yn nwylo'r heddlu
Ac yr oedd ddoe yn ddiwrnod i gydnabod y rhai hynny a wnaeth ymdrech fwy na'r cyffredin i ddefnyddio eu Cymraeg gyda Rachel Perry o Gaerdydd yn cael ei hanrhydeddu 芒 Medal y Dysgwyr - a chynnal wedyn nifer o gyfweliadau dwys 芒'r cyfryngau yn amyneddgar a chwrtais mewn Cymraeg gl芒n.
Ei gwobr hi, gyda llaw, wedi ei noddi gan Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Erlyn y Goron.
Pen-blwydd
Llwyddiant arall a ddathlwyd ddoe oedd y cylchgrawn Cip yn dathlu ei ben-blwydd yn 21 oed gyda theisen arbennig ac yng nghwmni dau o s锚r y teledu.
Cip yn olynydd i Cymru'r Plant a fu'n ddeunydd darllen poblogaidd ymhlith plant Cymraeg mewn dyddiau cyn bo llawer o s么n am deledu a phan oedd darllen a chwarae yn rhan naturiol o fywyd plant.
Pa brotest
Bydd y rhai sy'n cofio Cymru'r Plant a phethau felly yn cofio hefyd brotestiadau oedd yn rhan mor gyffrous o wythnos Eisteddfod yr Urdd ar un adeg.
Ond rhywbeth a berthyn i ddoe yw gwleidyddion yn cael eu hymlid a'u herlid ar draws y maes gan helgwn iaith a chafodd yr ychydig wleidyddion sydd wedi ymweld 芒'r Eisteddfod hyd yn hyn rwydd hynt i grwydro'r maes mewn hamdden.
A phan soniodd rhywun am brotest gan Gymdeithas yr Iaith ddydd Llun, yr ymateb oedd, "Pa brotest?"
Arwydd pellach fod yr oes yn newid.
Derbyn cyfrifoldeb
![Arwel Roberts](/staticarchive/7455e61a0b45edcdccb0478ef6259732b877477c.jpg)
Mewn oes pan yw pobl mor amharod i dderbyn cyfrifoldeb ac mor barod i fwrw bai ar bobl eraill yr oedd hi'n iechyd clywed Arwel Hughes Roberts, cyfarwyddwr sioe plant yr ysgolion cynradd, yn dweud wrth fynegi'n wylaidd ei ansicrwydd cyn y llwyfaniad cyntaf neithiwr;
"Mi wna i dderbyn unrhyw feirniadaeth - ond nid fi fydd biau'r clod os bydd yn llwyddiant."
Mor aml mae rhywun yn gweld y gwrthwyneb yn digwydd.
Ar fore tamp arall - I'r Maes . . .