麻豆官网首页入口

Cymru'n codi t芒l am fagiau untro

  • Cyhoeddwyd
5c a bag plastigFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rhaid talu o leiaf 5c am fag o ddydd Sadwrn ymlaen

Cymru yw'r wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno t芒l am fagiau untro yn y DU.

Mae'n rhaid i gwsmeriaid siopau Cymru dalu o leiaf 5 ceiniog am unrhwy fag untro y byddan nhw'n ei gael mewn siopau o hyn ymlaen.

Daeth y ddeddf i rym i godi t芒l am fagiau untro ddydd Sadwrn Hydref 1.

Bydd siopwyr yn wynebu cost am unrhyw fag y byddan nhw'n ei gael mewn siop - gan gynnwys bwyd poeth o fwytai.

Ond mae 'na eithriadau ac o bosib hyn fydd yn drysu siopwyr a pherchnogion siopau.

Ar drothwy'r newid fe wnaeth Prifysgol Caerdydd gyhoeddi oedd yn dangos nad oedd siopwyr yn gwbl glir am y rhesymau dros y newid.

Ond mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio y bydd y ddedd yn "hybu mwy o ddefnydd o fagiau amldro er mwyn diogelu ein hadnoddau cyfyngedig, annog cynaliadwyedd, a lleihau gwastraff a sbwriel".

"Rydym yn ymrwymedig i leihau nifer y bagiau siopa untro a ddefnyddir yng Nghymru," meddai llefarydd.

Arian at elusennau

"Ar hyn o bryd mae Cymru yn defnyddio tua 480 miliwn ohonyn nhw y flwyddyn."

Er mwyn peidio gorfod talu am fag eu cyngor yw i ddefnyddio eich bag eich hun dro ar 么l tro.

Uned Cysylltiadau Busnes, Atebolrwydd, Cynaliadwyedd a Chymdeithas Prifysgol Cymru wnaeth yr adroddiad.

Roedd yn mesur agwedd pobl at y newid yn y ddeddf.

Roedd 70% o blaid t芒l am fag untro ond roedd y rhanfwyaf yn credu ei fod wedi ei gyflwyno ar gyfer creu mwy o arian i'r llywodraeth.

Ychydig iawn oedd yn ymwybodol nad oedd yr arian yn mynd i'r llywodraeth.

O'r 600 o bobl gafodd eu holi roedd 85% yn ymwybodol o'r newid ond roedd 60% yn credu bod hyn yn gysylltiedig 芒 bagiau plastig yn unig ac nid bagiau papur hefyd.

"Er bod y cyhoedd o blaid codi t芒l, mae ganddyn nhw bryder pam bod y llywodraeth wedi ei gyflwyno," meddai Lori Frater, awdur yr adroddiad.

"Er eu hymwybyddiaeth am resymau amgylcheddol roedden nhw'n credu ei fod yn ffordd i'r llywodraeth wneud arian.

"Mae 'na deimlad bo 'na ddiffyg gwybodaeth i'r siopwyr ac egluro'r darlun ehangach."

Gwastraff

Wrth i bobl gael eu hannog i ddefnyddio eu bagiau eu hunain wrth siopa mae Cyfeillion y Ddaear Cymru yn falch iawn bod y ddeddf wedi dod i rym.

"Mae hi wedi bod yn ymgyrch boblogaidd a nifer yn ei chegnogi," meddai Gareth Clubb, cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru.

"Mae amgylcheddwyr, busneswyr, siopwyr ac ysgolion ar draws Cymru wedi ein cefnogi.

"Mae defnyddio bag gannoedd o weithiau yn hytrach na chael un newydd bob tro yn lleihau gwastraff ac yn lleiahu'r pwysau ar andoddau'r byd.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r t芒l yn ymgais i leihau gwastraff

"Mae treth tebyg yn Iwerddon wedi bod yn llwyddiannus iawn a dwi'n hyderus y bydd yn lwyddiant yma hefyd."

Pwysleisiodd Llywodraeth Cymru y bydd yr arian sy'n cael ei godi gan werthu'r bagiau yn mynd tuag at elusennau amgylcheddol a lleihau gwastraff.

Maen nhw'n rhagweld y bydd yr arian sy'n cael ei godi tua 拢3 miliwn yn y flwyddyn gyntaf.

"Mae'n ddiwrnod arbennig i Gymru wrth i ni gyflwyno t芒l am fagiau untro," meddai Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru,.

"Mae'n dangos bod Cymru yn wlad sydd wir yn gofalu am ei hamgylchedd.

"Bu pobl Cymru yn gefnogol iawn i gyflwyno'r t芒l a dwi'n edrych ymlaen i weld gostyngiad dramatig yn y gostyngiad o wastraff a ddaw yn ei sgil."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol