Prifysgol: Ansicrwydd i fyfyrwyr

Ffynhonnell y llun, Other

Disgrifiad o'r llun, Dau goleg fydd yn rhan o Brifysgol Cymru

Mae 'na ansicrwydd i tua 70,000 o fyfyrwyr ar draws y byd wedi cyhoeddiad Prifysgol Cymru eu bod yn bwriadu peidio gwirio cyrsiau dramor.

Yr Athro Medwin Hughes wnaeth yr argymhellion - a fydd yn cael eu trafod gan Gyngor Prifysgol Cymru - ar ei ddiwrnod cyntaf fel Is-Ganghellor newydd y sefydliad ddydd Llun.

Mae Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr wedi dweud bo ganddyn nhw "bryderon" am effaith y newid ar israddedigion.

Daw'r cyhoeddiad ddyddiau cyn i 麻豆官网首页入口 Cymru ddarlledu rhaglen ynghylch sefydliadau sy'n cydweithio gyda Phrifysgol Cymru, rhaglen a ddaw wedi rhaglen arall flwyddyn yn 么l oedd yn ymchwilio i ganolfannau dramor oedd yn cynnig cyrsiau yn arwain at raddau'r brifysgol.

Prifysgol Cymru yw'r ail sefydliad mwya o'i fath yn y DU, ond wedi'r newid bydd ymysg y lleia' yng Nghymru.

Ar hyn o bryd mae 'na bump sefydliad yn gysylltiedig gyda Phrifysgol Cymru ac mae'r brifysgol hefyd yn dilysu graddau mewn sefydliadu eraill ar draws y byd

'Ansawdd'

Ond bwriad y newid yw dilysu graddau yn ei phrifysgolion ei hun, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe.

Dywed Yr Athro Hughes y bydd 'na raglen ryngwladol newydd "ar fodel gwahanol....ac yn sail i'r cyfan y mae ansawdd".

Mae Prifysgol Glynd诺r, Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd a Phrifysgol Cymru Casnewydd yn cynnig graddau Prifysgol Cymru yn ogystal 芒 Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe ar hyn o bryd.

Roedd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe eisoes wedi cyhoeddi bwriad i uno gyda Phrifysgol Cymru tra bod rhai o'r sefydliadau eraill wedi ystyried cynnig eu graddau eu hunain.

Dywedodd Yr Athro Hughes bod Prifysgol Cymru yn "llawer mwy na dim ond dau sefydliad".

"Mae Prifysgol Cymru yn ymateb i her Llywodraeth Cymru, ac yn ymateb yn gadarnhaol, bod angen llai o brifysgolion ond rhai sy'n gweithredu ar ran y wlad."

"Fe fydd 'na raglen ryngwladol newydd ond model gwanhaol a sail y cyfan yw ansawdd, nid yn unig yng Nghymru ond yn rhyngwladol."

Mae Is-Ganghellor Prifysgol Cymru Casnewydd, Dr Peter Noyes, wedi dweud ei fod wedi ei synnu gan y cyhoeddiad.

Prynhawn dydd Llun y cafodd y brifysgol wybod am y bwriad i ddileu graddau Prifysgol Cymru.

"Mae'n resyn gen i nad yw'n addas i Brifysgol Cymru Casnewydd ddal yr enw hynny.

"Fe fyddwn ni'n ystyried cyflwyno ein graddau ein hunain er mwyn sicrhau'r myfyrwyr na fydd y cyhoeddiad yma yn cael effaith ar ei hastudiaethau mewn unrhyw ffordd."

Dywedodd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr y dylai "effaith y cyhoeddiad ar y myfyrwyr" gael ei asesu.

"Fe fydd 'na filoedd o fyfyrwyr eisiau gwybod be mae'r cyhoeddiad yma yn ei olygu iddyn nhw," meddai Luke Young, Llywydd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yng Nghymru.

"Mae angen eglurder ar gyfer graddedigion Prifysgol Cymru, myfyrwyr a'r rhai sydd am wneud cais i Gasnewydd, Glyndwr neu Uwic a fydd wedi eu synnu gan y cyhoeddiad."

Wrth ymateb i'r newyddion mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod mai "mater i'r sefydliadau addysg uwch yw pennu eu trefniadau graddio eu hunain, nid y llywodraeth".

Fe fydd y colegau sy'n cael eu heffeithio gan y cyhoeddiad yn cael rhybudd o flwyddyn cyn i'r newid ddod i rym ar ddechrau'r flwyddyn academaidd 2012.

Mae'r newyddion yn dod ddyddiau cyn i 麻豆官网首页入口 Cymru ddarlledu rhaglen Week In Week Out ynghylch rhai sefydliadau sy'n bartneriaid i Brifysgol Cymru.

Ym mis Mehefin dywedodd Leighton Andrews, Gweinidog Addysg Cymru, bod "dyfodol enw da addysg uwch yng Nghymru gyfan yn fantol" mewn cysylltiad 芒'r pryderon.

Cyhoeddwyd hefyd ym mis Mehefin adroddiad gan asiantaeth gwarchod safonau y QAA.

Roedd yr adroddiad yn nodi bo ganddyn nhw "hyder" yn y Brifysgol ond bod 'na "wendidau" yn y broses o ddilysu graddau yn allanol.

Dywed nad oedd Prifysgol Cymru wedi cynnal ymchwiliad llawn wrth sefydlu partneriaethau gyda'r colegau o dan sylw.