Prifysgolion Glynd诺r a Chasnewydd i gyflwyno graddau eu hunain

Ffynhonnell y llun, Other

Disgrifiad o'r llun, Mae'r ddwy brifysgol am gynnig ei graddau ei hun

Cyhoeddodd Prifysgol Glynd诺r, Wrecsam, na fyddan nhw'n cynnig graddau Prifysgol Cymru i'w myfyrwyr.

Ac mae Prifysgol Casnewydd yn dweud eu bod nhw 'mwy na thebyg' am gynnig graddau eu hunain yn y dyfodol.

Daw'r cyhoeddiad ar 么l ymchwiliad gan 麻豆官网首页入口 Cymru i dwyll fisa myfyrwyr mewn rhai colegau oedd yn cynnig cymwysterau Prifysgol Cymru.

Cwta bythefnos sydd ers i Brifysgol Glynd诺r wneud cais i beidio 芒 bod yn rhan o Brifysgol Cymru.

Dywedodd Prifysgol Glynd诺r y bydd eu holl israddedigion ac 么l-raddedigion yn cael eu trosglwyddo i'w cymwysterau nhw yn syth.

Ond mae'r myfyrwyr wedi cael gwybod bod ganddyn nhw opsiwn i barhau i gael gradd Prifysgol Cymru.

Mae Prifysgol Glynd诺r wedi sicrhau myfyrwyr na fydd y cyrsiau yn cael eu heffeithio.

Daw hyn ar 么l i'r brifysgol gyhoeddi ym mis Medi y bydd yn tynnu allan o Brifysgol Cymru ac mai astudio ar gyfer ei graddau ei hun y byddai myfyrwyr o 2012 ymlaen.

Mewn datganiad i'r myfyrwyr dywedodd y Dirprwy Is-Ganghellor Helen James a llywydd urdd y myfyrwyr Adam Fuller: "Fe fydd holl fyfyrwyr Prifysgol Glynd诺r yn cael eu dysgu am raddau Prifysgol Glynd诺r ar unwaith."

Casnewydd

Mae'r datganiad hefyd yn nodi bod modd i'r myfyrwyr aros ar gwrs gradd Prifysgol Cymru ac y bydd mwy o fanylion ar gael iddyn nhw yn fuan."

Dywedodd y Brifysgol bod y penderfyniad yn deillio o gyhoeddid Prifysgol Cymru i wrthod dilysu'r graddau oni bai eu bod o fewn ei sefydliad ei hun.

Dywedodd Dr Peter Noyes Is-Ganghellor Prifysgol Casnewydd mai'r pwysigrwydd drwy'r wythnos yw sicrhau myfyrwyr.

"Mae gan Gasnewydd y p诺er i wobrwyo eu graddau eu hunain petai ni'n dewis.

"Wedi'r cyhoeddiad ddydd Llun nad yw Prifysgol Cymru yn dilysu graddau tu allan i'w sefydlid, mae'n bur debygol y byddwn ni'n cyflwyno ein graddau ein hunain o 2012 ymlaen.

"Petai hyn yn digwydd, caiff y myfyrwyr presennol y dewis i barhau i astudio am radd Prifysgol Cymru neu am radd yn enw Casnewydd.

"Mae hi wedi bod yn wythnos anodd i bawb sy'n gysylltiedig ag addysg uwch yng Nghymru."

Ychwanegodd bod rhaid i arweinwyr y prifysgolion ddod at ei gilydd a sicrhau myfyrwyr ac eraill bod "addysg uwch yng Nghymru yn mynd i fod yn rym positif ac anferth i'r bobl a'r cymunedau yr ydym yn ei wasanaethu".

Niwed i enw'r Brifysgol

Mae hi wedi bod yn wythnos niweidiol i enw Prifysgol Cymru.

Darlledwyd rhaglen Week In Week Out 麻豆官网首页入口 Cymru nos Fercher oedd wedi canfod bod myfyrwyr o dramor yn cael cynnig twyllo i gael gradd prifysgol a fisa gwaith yn y DU.

Ffynhonnell y llun, 麻豆官网首页入口 news grab

Disgrifiad o'r llun, Mae nifer o honiadau wedi bod yn erbyn Prifysgol Cymru

Mae'r Asiantaeth Ffiniau wedi archwilio sefydliadau fel rhan o'r wybodaeth a ddaeth i law'r rhaglen ac mae Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, wedi cefnogi eu penderfyniad i "ymchwilio i honiadau pryderus mewn perthynas 芒 Phrifysgol Cymru a'r colegau a sefydliadau yn cam-drin y system fisa".

Roedd ffilm ar gamera cudd yn awgrymu fod myfyrwyr yng Ngholeg Rayat, Llundain, yn cael cynnig cyfle i wneud cwrs MBA wrth ddefnyddio diploma ffug.

Dywed y Coleg nad oeddynt yn ymwybodol o beth oedd yn digwydd a bod tri o gontracwyr wedi eu hatal o'u gwaith.

Gwnaed hynny y diwrnod wnaeth y 麻豆官网首页入口 gysylltu 芒'r coleg.

Yn gynharach yn yr wythnos, cyhoeddodd penaethiaid pum prifysgol yng Nghymru eu bod am weld enw Prifysgol Cymru yn cael ei ddileu.

Dywedodd Is-Gangellorion Prifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, Morgannwg ac Abertawe - sydd ddim yn aelodau o Brifysgol Cymru - nad ydyn nhw'n fodlon derbyn Prifysgol Cymru ar ei ffurf bresennol.

Mynnodd y gr诺p - sy'n cael eu hadnabod fel Gr诺p Dydd G诺yl Dewi - fod gweithgareddau Prifysgol Cymru wedi ac yn dal i niweidio enw da addysg uwch yng Nghymru, ac nad oedd gan y sefydliad yr hawl bellach i ddefnyddio'r brand.

Ond fe wnaeth Is-Ganghellor Prifysgol Cymru, Yr Athro Medwin Hughes, ddweud ei fod eisiau adfer brand y sefydliad yn hytrach na'i weld yn diflannu.

Mae disgwyl i Leighton Andrews, Gweinidog Addysg Cymru, wneud cyhoeddiad ar y mater yr wythnos nesaf.