麻豆官网首页入口

Angen gwella iechyd y Cymry yn 么l y prif swyddog

  • Cyhoeddwyd
Dyn yn mesur ei ganolFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rhybydd bod afiechydon o ganlyniad i ordewdra

Mae prif swyddog meddygol Cymru yn rhybuddio y bydd pobl yn marw yn gynt na'r disgwyl oherwydd nad ydyn nhw'n byw bywyd digon iachus.

Dywed Dr Tony Jewell fod afiechydon yn cael eu hachosi gan ordewdra, ysmygu, alcohol a diffyg cadw'n heini.

Mae ef o'r farn nad yw un o bob tri o'r boblogaeth yn cael digon o ymarfer corff.

Yn ei adroddiad blynyddol mae'n croesawu'r newyddion fod llai o bobl ifanc yn ysmygu ac yfed, ond ychwanegodd fod ystadegau eraill yn llai calonogol.

"Yn anffodus mae lefel ysmygu ymhlith oedolion yn parhau yn weddol uchel ar 23%," meddai.

Ymarfer corff

"Mae tua 30% o oedolion yn gwneud digon o ymarfer corff dyddiol."

Ond ychwanegodd fod tua 22% o oedolion yn ordew.

Mae'n dweud fod rhannau eraill o Brydain ac Ewrop yn gweld gwell cynnydd o safbwynt iechyd pobl.

Er hyn, roedd yn croesawu'r ffaith fod yna leihad yn y nifer o bobl ifanc sy'n yfed neu'n ysmygu.

Mae yna awgrym yn yr adroddiad y dylid ychwanegu fflworid at dd诺r er mwyn gwella dannedd plant.

Ar hyn o bryd mae'r llywodraeth yn rhoi brwsys dannedd i rai plant meithrin ac yn rhoi gwersi brwsio dannedd i blant cynradd.

"Cafodd anesthetig ei roi mewn 5,130 o achosion y llynedd er mwyn tynnu dannedd plant yn ne ddwyrain Cymru, ardal lle nad oes fflworid yn y d诺r," meddai Dr Jewell.

Mae'n dweud y dylid cymharu hynny a Birmingham - ardal o boblogaeth debyg, lle mae fflworid yn y d诺r.

"Yn Birmingham cafodd 2,700 o blant driniaeth debyg."

Ond mad rhai beirniaid yn dweud nad ydym yn gwybod beth yw sgil effeithiau hir dymor o roi fflworid yn y d诺r.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol