麻豆官网首页入口

Hoelen olaf yn arch Prifysgol Cymru

  • Cyhoeddwyd
Prifysgol CymruFfynhonnell y llun, 麻豆官网首页入口 news grab

Nid yw prifysgolion yn diflannu dros nos heb son am sefydliadau cenedlaethol.

Ond yn dilyn pythefnos o bwysau cynyddol, mae Prifysgol Cymru ar fin cael ei diddymu ar 么l 118 o flynyddoedd.

Sgandal fisas yn ymwneud a staff yn un o'r colegau niferus oedd yn bartner iddi, a ddatgelwyd gan 麻豆官网首页入口 Cymru, oedd yr hoelen olaf yn yr arch.

Flwyddyn yn 么l, roedd y brifysgol cyn gryfed ag erioed - yr ail gorff mwyaf yn y DU i gynnig graddau gyda 70,000 o fyfyrwyr ar draws y byd.

Yna daeth ymchwiliad 麻豆官网首页入口 Cymru o hyd i anghysonderau mewn partneriaethau dramor.

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, bod Prifysgol Cymru wedi gadael Cymru i lawr.

Ond roedd gwaeth i ddod - awgrym fod coleg arall oedd yn bartner iddi lle'r oedd aelodau o staff yn cynnig cymorth i fyfyrwyr i dwyllo er mwyn cael graddau.

Trodd prifysgolion eraill yng Nghymru yn erbyn y sefydliad, gyda chwech allan o ddeg yn galw am ddiddymu brand Prifysgol Cymru.

Yr unig ddau aelod fyddai ar 么l oedd dwy brifysgol yn Ne-Orllewin Cymru.

Doedd y brifysgol bellach ddim yn cynrychioli Cymru gyfan, gyda'r sefydliadau mwyaf eisoes wedi gadael dros y chwe blynedd ddiwethaf.

Roedd rhai yn amau y byddai'r brifysgol yn brwydro ymlaen ac yn mynegi pryder y byddai bob sgandal newydd yn difrodi enw da Prifysgol Cymru ymhellach.

Ond doedd dim modd parhau gyda brwydr chwerw gyhoeddus oedd yn cael ei chynnal yn gyhoeddus rhwng prifysgolion yng Nghymru.

Mae llawer o falchder yn hanes Prifysgol Cymru, yn arbennig felly ei gwreiddiau fel sefydliad a dalwyd amdani gan werin bobl oedd am gael addysg.

Ond fe fydd y bennod olaf yn ei hanes yn un a ddifethwyd gan ddadlau a sgandal.