Pennaeth Prifysgol: Dechrau newydd

Ffynhonnell y llun, 麻豆官网首页入口 news grab

Disgrifiad o'r llun, Sefydliad Prifysgol Cymru yn dod i ben

Yn 么l Is-ganghellor Prifysgol Cymru bydd uno gyda dau goleg arall yn creu brand newydd a chryf yng Nghymru.

Ddoed cyhoeddwyd y bydd Prifysgol Cymru yn uno 芒 phrifysgol Fetropolitan Abertawe a Choleg y Drindod Dewi Sant.

Yn 么l yr Is-ganghellor Medwin Hughes mae'r uno yn golygu dechrau newydd i'r hen sefydliad, sy'n 118 oed.

"Rydym wedi sicrhau ddoe y bydd yr enw yn parhau o fewn cyd-destun addysg uwch."

Dywedodd yr Athro Hughes y byddai myfyrwyr dal yn gallu cwblhau gradd Prifysgol Cymru am y tro.

Unwaith i'r prifysgolion uno bydd graddau yn cael eu rhoi yn enw'r sefydliad newydd, meddai.

"Dim mater o bwysau, mater o sylweddoli ar gyfer gwasanaethu Cymru er mwyn diogelu prifysgolion cryf yng Nghymru mae'r hyn oedd yn ddoeth oedd sefydlu prifysgol newydd, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant."

Ffynhonnell y llun, 麻豆官网首页入口 news grab

Disgrifiad o'r llun, Yn gynharach ym mis Hydref fe alwodd y Gweinidog Addysg Leighton Andrews am ymddiswyddiad Mr Thomas

Fe ymddiswyddodd Cadeirydd Cyngor y Brifysgol Hugh Thomasar 么l y cyhoeddiad am yr uno.

Yn ddiweddar cafodd Prifysgol Cymru ei feirniadu yn dilyn datguddiadau gan 麻豆官网首页入口 Cymru ynghylch sgandal fisa yn ymwneud 芒 staff mewn coleg yn Llundain oedd yn un o bartneriaid y brifysgol.

Dywedodd D.Hugh Thomas ei fod yn ymddiswyddo er "pennaf les y brifysgol sydd wedi ei gweddnewid".

Newid strwythur

Mae'n dweud iddo asesu beth sydd orau i'r brifysgol yn sgil newidiadau i strwythur y brifysgol a gafodd eu cyhoeddi yn ddiweddar.

Bydd y cyfuniad, sydd hefyd yn ymglymu Prifysgol Fetropolitan Abertawe, yn mynd yn ei flaen o dan siarter Y Drindod Dewi Sant.

Dywedodd gohebydd addysg 麻豆官网首页入口 Cymru, Ciaran Jenkins, fod y cyfuniad yn golygu creu siarter newydd fyddai'n arwain at ddiddymu Prifysgol Cymru.

Mae dyfodol prifysgol Cymru wedi bod yn y fantol yn dilyn cynlluniau gan lywodraeth Cymru i newid strwythur addysg uwch yng Nghymru.

Cafodd y brifysgol ei hysgwyd gan y sgandal fisa gan arwain at alwadau ar i'r corff gael ei ddiddymu.

Mae Asiantaeth Ffiniau'r DU wedi atal Coleg Rayat Llundain rhag recriwtio myfyrwyr tramor yn dilyn y sgandal fisa.

Yn gynharach ym mis Hydref fe alwodd y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, am ymddiswyddiad Mr Thomas.

Mae'r Is-gadeirydd Prifysgol Cymru, Alun Thomas, yn dweud ei fod yn deall yn iawn pam fod Hugh Thomas yn gadael ac yn diolch iddo am ei waith ar hyd y blynyddoedd.

'Hanes'

Prifysgol Cymru oedd yr ail fwyaf yn y DU gyda 70,000 o fyfyrwyr mewn 130 o golegau ar draws y byd.

Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran llywodraeth Cymru:

"Rydym yn croesawu penderfyniad y Cadeirydd i ymddiswyddo. Dyma'r penderfyniad cywir yng ngoleuni digwyddiadau diweddar.

"Mae Prifysgol Cymru wedi chwarae rhan bwysig yn hanes Cymru. Mae'n bwysig fod unrhyw sefydliad sy'n ei olynu yn adeiladu ar yr hanes yna."