Cyllideb: Llafur yn colli pleidlais

Mae Llywodraeth Cymru wedi colli pleidlais ar ei chynlluniau cyllido ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Cyfartal oedd y bleidlais yn y Senedd ddydd Mawrth sy'n golygu na chafodd cynnig yn nodi cyllideb ddrafft Llafur ei basio.

Bydd trafodaethau rhwng y llywodraeth a'r gwrthbleidiau yn parhau cyn y bleidlais derfynol ar y gyllideb ar Ragfyr 6.

Apeliodd y Gweinidog Cyllid, Jane Hutt, ar Aelodau Cynulliad i "weithio gyda'i gilydd er lles Cymru".

Pob ymdrech

Methodd trafodaethau rhwng Llafur a'r gwrthbleidiau wedi i'r tair plaid arall wneud cynnig gwahanol yr wythnos ddiwethaf.

Methodd y cynnig hwnnw yn y bleidlais ddydd Mawrth.

Fe wnaeth y pleidiau pob ymdrech i sicrhau presenoldeb bob aelod ar gyfer y bleidlais.

Cyrhaeddodd aelod Ceidwadol Gorllewin Clwyd, Darren Millar, y Senedd mewn cadair olwyn wedi iddo dorri ei ff锚r ar ymweliad diweddar a De Affrica.

Nid yw'r bleidlais yn golygu methiant llwyr i'r gyllideb, ond mae'n cynyddu'r pwysau ar y Prif Weinidog, Carwyn Jones.

Mae'r frwydr i basio'r gyllideb yn arwydd o ba mor anodd y bydd hi i'w blaid lywodraethu heb fwyafrif ym Mae Caerdydd.

Llai na 1%

Dywedodd Mrs Hutt bod y gyllideb ddrafft a gyflwynodd i'r cynulliad yn adeiladu ar y gyllideb ddiwethaf a gynlluniwyd gan y glymblaid rhwng Llafur a Phlaid Cymru ac a gafodd s锚l bendith y cynulliad ym mis Chwefror.

Dywedodd fod y newidiadau o eleni i'r flwyddyn nesaf yn cynrychioli llai nag 1% o'r cyfanswm gwariant.

"Gobeithio y gallwn fanteisio ar y cyfle i ddangos i bobl Cymru y gallwn ddefnyddio ein sgiliau, profiad a doethineb gwleidyddol i weithio gyda'n gilydd er lles Cymru," meddai.

"Nid oes gennym fonopoli ar ddoethineb mewn llywodraeth," ychwanegodd wrth estyn llaw i'r gwrthwynebwyr.

'Gwaethygu'n ddramatig'

Er iddi fynnu fod y gyllideb yn un ar gyfer "swyddi a thwf", dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, nad oedd y llywodraeth wedi ymateb wrth i sefyllfa'r economi waethygu'n ddramatig ers i Lafur gael eu hethol eto ym mis Mai.

Dywedodd Mr Jones: "Yr hyn sydd yn glir o'r drafodaeth gan leisiau ar draws y Cynulliad yw nad yw'r gyllideb ddrafft ar ei ffurf bresennol yn cwrdd 芒 gofynion pobl Cymru.

"Mae Plaid Cymru nawr yn gobeithio cynnal trafodaethau adeiladol gyda'r llywodraeth er mwyn cyrraedd cytundeb.

"Mae cymunedau Cymru yng nghanol argyfwng economaidd, ac rydym ni ym Mhlaid Cymru yn benderfynol o orfodi'r llywodraeth i ymateb i'r argyfwng yna."

'Herfeiddiad'

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr ar Gyllid, Paul Davies:

"Mae'r bleidlais yn gyrru neges o herfeiddiad i'r Prif Weinidog gan nad yw ei gyllideb ddrafft yn ffit i bwrpas, ac mae ei amharodrwydd i fod yn hyblyg wedi bod yn na茂f.

"Nid yw'r cynllun gwariant yn cwrdd 芒 gofynion gwasanaeth iechyd, system addysg nac economi Cymru.

"Mae angen newid a gwella blaenoriaethau er mwyn i'r gyllideb ateb gofynion cymunedau ar hyd a lled Cymru."

Mae Llywodraeth Cymru yn ymdopi a thoriad yn ei grant o'r Trysorlys o ganlyniad i gyfyngu ar wariant cyhoeddus.

Bydd ei chyllideb refeniw yn lleihau o 2% y flwyddyn nesaf, gyda'r gyllideb gyfalaf - arian ar gyfer adeiladau ac isadeiledd - yn cael ei gwtogi o dros 10%.

Wrth ganiat谩u am chwyddiant, bydd yr adran iechyd a gwasanaethau cymdeithasol - yr un fwyaf o safbwynt gwariant - yn wynebu tolc o 拢102 miliwn.