Comisiwn am lai o gynghorwyr ar Ynys M么n

Ffynhonnell y llun, 麻豆官网首页入口 news grab

Disgrifiad o'r llun, Comisiynwyr sydd wedi bod yn gyfrifol am redeg Cyngor Sir Ynys M么n ers misoedd

Mae'r Comisiwn Ffiniau yn argymell y dylai Cyngor Sir Ynys M么n gael 30 o gynghorwyr yn y dyfodol, 10 yn llai na'r nifer bresennol.

Fe gyhoeddodd y comisiwn eu harmgymellion ddydd Llun.

Bydd cyfarfod arbennig o'r cyngor yn trafod y cynigion fydd yn y pen draw yn cael eu cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru.

O ganlyniad i'r argymhellion mae 麻豆官网首页入口 Cymru wedi cael ar ddeall y gallai etholiadau llywodraeth leol ar yr ynys gael eu gohirio.

Dydd Sul fe ddatgelwyd y gallai'r etholiadau gael eu gohirio am o leiaf 12 mis am na fydd 'na ddigon o amser i'r cyngor baratoi wedi i waith y comisiwn ddod i ben.

sy'n gyfrifol ar hyn o bryd am Cyngor Sir Ynys M么n.

O dan y trefniadau newydd fe fydd 11 o adrannau etholaethol newydd gyda thri chynghorydd yn cynrychioli wyth o'r adrannau hynny a dau gynghorydd yn cynrychioli'r tair adran arall.

Dywedodd John Stevenson, Gohebydd Gwleidyddol y gogledd: "Yr hyn sy'n cael ei gynnig yw newid pellgyrhaeddol.

"Mae Max Caller, Cadeirydd y Comisiwn Ffiniau, wedi dweud mai'r nod fydd sefydlu system deg fydd yn hollbwysig i ddemocratiaeth leol.

"Ac mae wedi dweud bod yr un sefyllfa mewn llawer o awdurdodau lleol.

"Dyna pam mae adolygiadau etholiadol mewn 22 o gynghorau bwrdeistref sirol a dinesig."

'Sylweddol'

"Byddai'r cynigion yma, petaen nhw'n cael eu derbyn, yn golygu newidiadau daearyddol a diwylliannol sylweddol i etholwyr Ynys M么n," meddai Prif Weithredwr dros dro y cyngor sir, Richard Parry Jones.

"Byddwn yn annog etholwyr Ynys M么n i edrych yn fanwl ar gynigion y Comisiwn Ffiniau a chyflwyno eu sylwadau yn uniongyrchol at y Comisiwn erbyn Ionawr 3.

"Mi fydd modd wneud sylwadau am yr enwau arfaethedig wedi eu cynnig ar gyfer y rhanbarthau etholiadol newydd neu gynnig dewis arall.

"Rhaid pwysleisio fod hon yn broses ymgynghorol ac yn gyfle i bobl ddylanwadu ar lywodraethu'r ynys ac felly mae'n bwysig fod pawb 芒 diddordeb yn cael dweud eu dweud."

Fe fydd yr argymhellion terfynol yn cael eu cyflwyno i'r Gweinidog dros Llywodraeth Leol a Chymunedau, Carl Sargeant, erbyn gwanwyn 2012.

Terfynol

Bydd yr argymhellion terfynol hefyd yn cael eu cyhoeddi am ymgynghoriad pellach yr un pryd, gydag opsiynau'n cael eu danfon yn syth at y gweinidog.

Bydd wedyn yn ystyried argymhellion y Comisiwn ac unrhyw sylwadau ychwanegol cyn gwneud penderfyniad terfynol, os o gwbl, erbyn canol 2012.

Rhoddir ystyriaeth wedyn i benderfynu dyddiad ar gyfer yr etholiadau cyngor sir nesaf.

Mae etholiadau llywodraeth leol i fod i'w cynnal ym mis Mai 2012.