Cwmn茂au yn poeni am y dyfodol

Ffynhonnell y llun, PA

Disgrifiad o'r llun, Arolwg yn awgrymu bod busnesau yn pryderu am y dyfodol

Mae hyder rhai o bobl fusnes mwyaf blaenllaw Cymru wedi gostwng yn sylweddol yn 么l arolwg diweddaraf Sefydliad y Cyfrifwyr Siartredig.

Mae'r arolwg yn awgrymu fod mwyafrif o fusnesau yng Nghymru yn poeni am ragolygon economaidd i'r dyfodol.

Yn 么l system fonitro ICAEW/Grant Thornton dyma'r to cyntaf ers dechrau 2011 i fwyafrif o fusnesau Cymru fod 芒 rhagolygon negyddol.

Roedd y mynegai ar gyfer chwarter olaf 2011 wedi gostwng o 16.5 i -9.2.

Cafodd 66 o bobl busnes amlwg eu holi ar gyfer yr arolwg.

Ond roedd yna ychydig o newyddion da, gan fod yr arolwg yn awgrymu fod gwariant cyfalaf yng Nghymru wedi codi dros y 12 mis diwethaf.

"Fe wnaeth hyder y sector fusnes gynyddu yn y ddau chwarter blaenorol, ond mae o nawr yn 么l yn negyddol," meddai David Lermon, o sefydliad cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr (ICAEW).

"Mae effaith argyfwng yr Euro, cynnydd yn nifer y di-waith a thoriadau mewn gwariant cyhoeddus yn cael effaith.

"Mae'n amlwg fod yna bryder am y rhagolygon economaidd ac ofn ein bod ar drothwy dirwasgiad arall.

"Mae hyder ymhlith y boblogaeth yn isel, ac mae prisiau ynni, bwyd a thanwydd yn taro'n galed."

Yn 么l Geraint Davies, sy'n un o bartneriaid Grant Thornton yng Nghaerdydd, mae'r busnesau sydd wedi eu taro waethaf eisoes wedi cau.

Trosiant

Dywedodd fod yna sefydlogrwydd yn nifer y swyddi yn y sector breifat.

"Ond yr her fawr fydd ceisio sicrhau fod y sector breifat yn gwneud yn iawn am y swyddi fydd yn cael eu colli yn y sector gyhoeddus."

Yn 么l yr arolwg fe wnaeth cwmn茂au yng Nghymru lwyddo i gynyddu eu trosiant o 3.9% rhwng 2010-2011.

Roedd yna gynnydd o 3.1% mewn elw gros ar gyfer yr un cyfnod.

Mae cynnydd wedi bod mewn buddsoddiad cyfalaf yng Nghymru.

Roedd cwmn茂au ar gyfartaledd wedi cynyddu buddsoddiad cyfalaf o 2.4% yn y 12 mis hyd ddiwedd 2011.

Ond ar y llaw arall roedd cwmn茂au ond yn rhagweld cynnydd o 0.2% dros y flwyddyn nesaf.

Dywed yr arolwg fod swyddi yn cael eu creu yng Nghymru yn y sector breifat.

Ond dywed yr arolwg ei bod yn bosib na fydd hyn yn ddigon gan fod lefel diweithdra yng Nghymru wedi cynyddu i 9.3% o'i gymharu 芒 8.5% ar gyfer y Deyrnas Unedig.

Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn credu y gallai 21,000 o swyddi gael eu colli dros gyfnod o bedair blynedd yn y sector gyhoeddus.