麻豆官网首页入口

Prifysgolion: O blaid cynnig

  • Cyhoeddwyd
Leighton AndrewsFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Mr Andrews na ddylai'r cynulliad ofni defnyddio'i bwerau i orfodi prifysgolion i uno mewn sefyllfaoedd eithafol

Mae'r Cynulliad wedi pleidleisio'n unfrydol o blaid cynnig gwrthbleidiol yn galw am fwy o gydweithio rhwng prifysgolion Cymru.

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, wrth y Cynulliad na fyddai unrhyw benderfyniadau yngl欧n ag uno prifysgolion yn cael eu gwneud tan ddiwedd cyfnod ymgynghorol fydd yn dechrau yn y flwyddyn newydd.

Ychwanegodd Mr Andrews na ddylai'r cynulliad ofni defnyddio'i bwerau i orfodi prifysgolion i uno mewn sefyllfaoedd eithafol ond mai'r sefyllfa ddelfrydol fyddai i brifysgolion weithredu o wirfodd eu hunain.

Ddydd Mercher cyhoeddodd Prifysgolion Aberystwyth a Bangor Gynghrair Strategol newydd fydd yn cynyddu'r cydweithio rhwng y ddau sefydliad.

'Model cynaliadwy'

Llofnodwyd y Cynghrair Strategol newydd yn yr adolygiad ar y Bartneriaeth Ymchwil a Menter Ddydd Mercher yng Nghaerdydd.

Mae hyn yn dilyn cyfarwyddiadau Llywodraeth Cymru sy'n gofyn am ragor o gydweithrediad a chyfuno rhwng prifysgolion Cymru er mwyn creu 'model cynaliadwy' i'r sector addysg uwch.

Mae'r Ysgrifennydd Addysg a Sgiliau, Leighton Andrews, wedi dweud nad yw'n disgwyl i Aberystwyth a Bangor uno fel un sefydliad 'ar hyn o bryd'.

Bydd y cynghrair newydd yn adeiladu ar sail y Bartneriaeth Ymchwil a Menter a sefydlwyd gan y ddwy brifysgol yn 2006 am 拢10.9m ac a ariannwyd gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

Creu gwerth 拢11m o ymchwil ychwanegol dros bum mlynedd oedd y nod, ond llwyddodd y bartneriaeth ddenu 拢53m o gyllid ymchwil ychwanegol.