麻豆官网首页入口

Galw am gefnogaeth i Bradley Manning

  • Cyhoeddwyd
Bradley ManningFfynhonnell y llun, AP
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd cefnogwyr Bradley Manning yn ymgyrchu yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn

Mae cefnogwyr Bradley Manning - y milwr sydd wedi ei gyhuddo o ryddhau dogfennau cyfrinachol i wefan Wikileaks - yn galw ar wleidyddion o Gymru i ymgyrchu ar ei ran.

Bydd Manning - a gafodd ei fagu yn Sir Benfro - yn cael gwrandawiad cyntaf ddydd Gwener i ateb y cyhuddiadau yn ei erbyn.

Mae ymgyrchwyr yng Nghymru wedi bod yn mynegi pryder am y modd y cafodd ei drin ers iddo gael ei arestio ym mis Mai 2010, ac yn dweud bod angen pwysau gwleidyddol o Gymru.

Fe fyddan nhw'n ymgyrchu yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.

Cafodd ei eni yn Oklahoma, ond treuliodd Bradley Manning bedair blynedd yn Ysgol Tasker Milward yn Hwlffordd, ac mae ei fam yn dal i fyw yn Sir Benfro.

Dywedodd Vicky Moller o Sir Benfro ei bod wedi ysgrifennu ar Aelodau Seneddol a Chynulliad yn eu hannog o godi pryderon am ei driniaeth.

"Maen nhw wedi ymroi i wneud rhywbeth am y mater, ond nid yw hynny'n ddigon ac rydw i'n rhwystredig iawn am y sefyllfa," meddai.

"Mae'r SNP eisoes wedi datgan barn ac mae'r AS Ann Clwyd hefyd wedi mynegi pryder, ac rwy'n hyderus y bydd y Cynulliad yn gwneud rhywbeth."

Bydd cefnogwyr yn ymgyrchu yng nghanol Caerdydd ddydd Sadwrn - penblwydd Bradley Manning yn 24 oed.

Bydd yn un o nifer o brotestiadau yn Ewrop ac America.

Cafodd Manning ei gyhuddo o basio miloedd o ddogfennau cyfrinachol i wefan Wikileaks oedd yn manylu am waith lluoedd America yn Irac ac Afghanistan.