麻豆官网首页入口

Dechrau'n gynt

  • Cyhoeddwyd
Ian JonesFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ian Jones yw Prif Weithredwr newydd S4C

Mae Awdurdod S4C wedi cadarnhau y bydd prif weithredwr newydd y sianel yn dechrau ei waith ar Ionawr 23.

Roedd Ian Jones yn un o'r t卯m sefydlodd y sianel yn 1982 ond bellach mae'n gweithio fel un o uwch-reolwyr A+E Television Networks yn Efrog Newydd.

Roedd pryder na fyddai'n medru cymryd yr awenau tan fis Ebrill 2012 oherwydd cyfyngiadau cytundebol gyda'i gyflogwyr presennol.

Dywedodd datganiad S4C: "Mae Ian Jones yn un o uwch reolwyr mwyaf profiadol y byd teledu ym Mhrydain a'r Unol Daleithiau ac mae wedi gweithio yn y diwydiant ym Mhrydain a thramor ers bron 30 mlynedd.

"Yn wreiddiol o Dreforys, mae ganddo brofiad eang ar draws darlledu, cynhyrchu, cyd-gynyrchiadau a theledu rhyngwladol.

'Ail-ymuno'

"Ar 么l gweithio yn adran adloniant rhwydwaith ITV ac fel cynhyrchydd annibynnol, ail-ymunodd ag S4C fel Cyfarwyddwr Busnes, S4C Rhyngwladol a Chyd-gynyrchiadau o 1992 i 1997.

"Ers hynny bu'n gweithio fel rheolwr a chyfarwyddwr Scottish Television, United News and Media (ITEL) a Granada International.

"Bu'n Gadeirydd Cymdeithas Dosbarthu Diwydiant Teledu Prydain (British Television Distribution Industry Association) am ddwy flynedd.

"Rhwng 2004 a 2007 roedd yn Llywydd National Geographic Television International cyn mynd yn Rheolwr Gyfarwyddwr Gr诺p i'r Target Entertainment Group."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol