Sefydliad Aren Cymru yn falch bod cefnogaeth i'r newid trefn o roi organau

Mae Sefydliad Aren Cymru wedi croesawu'r gefnogaeth sydd i newid arfaethedig yn y drefn o roi organau.

Yn yr arolwg a wnaed ar ran 麻豆官网首页入口 Cymru roedd y mwyafrif a holwyd o ddau i un o blaid y newid arfaethedig.

Fe fyddai'r newid yn gofyn i bobl sy'n anfodlon gadael i'w horganau gael eu defnyddio ar 么l eu marwolaeth gofrestru eu gwrthwynebiad.

Gobaith ymgyrchwyr yw y byddai hynny'n sicrhau gwell cyflenwad o organau na'r gyfundrefn bresennol o gofrestru cydsyniad.

Gwrthwynebir y newid gan nifer o arweinwyr eglwysig.

Ond roedd 63% o'r rhai a holwyd o blaid y newid gyda 31% yn gwrthwynebu.

Roedd y gefnogaeth yn gryfach ymhlith yr ifanc a menywod nac ymhlith dynion a phobl h欧n.

Disgrifiad o'r sainNia Thomas yn holi Tristan Williams o Sefydliad Aren Cymru

Dywedodd Tristan Williams o Sefydliad Aren Cymru eu bod yn falch o weld canlyniad yr arolwg.

"Rydan ni'n gwybod ers sawl blwyddyn bellach bod y rhan fwyaf o'r boblogaeth o blaid newid yn y system.

"Yn amlwg mae'r canlyniadau yn cadarnhau hyn a'n bod yn mynd i'r cyfeiriad cywir.

"Mae 'na waith o hyd i'w wneud a chydweithio gyda'r Llywodraeth bod pawb yn glir am yr hyn fydd yn digwydd."

Bagiau un-defnydd

Mae'r un arolwg hefyd yn awgrymu bod pobl Cymru wedi derbyn y taliad sy'n cael ei godi am fagiau un-defnydd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae'r arolwg yn awgrymu bod pobol Cymru wedi derbyn y taliad sy'n cael ei godi am fagiau un-defnydd

Dim ond 34% oedd yn dymuno gweld y taliad yn cael ei ddileu tra bod bron i ddwbl hynny, 64% yn credu bod gofyn pum ceiniog am fag yn deg.

Cymysg yw barn yr etholwyr am y Gyfundrefn Addysg er gwaethaf cyfres o adroddiadau diweddar yn rhybuddio ynghylch ei chyflwr.

Roedd 21% yn credu bod safon addysg wedi gwella dros y pum mlynedd diwethaf, 28% yn credu ei bod wedi gwaethygu a 35% yn credu ei bod wedi aros yn ei hunfan.

Disgrifiad o'r sainAlun Rhys fu'n cael barn siopwyr a defnyddwyr ym Mhwllheli am d芒l y bagiau plastig

Dywedodd Owen Hathway o'r undeb athrawon NUT Cymru fod y sector yn wynebu heriau ond ychwanegodd fod "penodau negyddol" wedi dylanwadu barn pobl ynghylch beth oedd yn disgwyl yn y dosbarth.

"Yn fy marn i rydyn ni wedi gweld ymgyrch cysylltiadau cyhoeddus sydd yn agos i fod yn un ymosodol, yn enwedig yn ystod y blynyddoedd diwethaf," meddai.

"Mae'r ymgyrch hwn wedi bod yn negyddol o ran y proffesiwn ac eithaf negyddol o ran addysg yn gyffredinol.

"Felly nid yw'n sioc fod rhai pobl yn meddwl bod safonau wedi gostwng."

Holwyd 1,000 o bobol gan ICM rhwng Chwefror 24 a 26.