麻豆官网首页入口

Gwrthwynebiad i uno ysgolion

  • Cyhoeddwyd
School protesters last summerFfynhonnell y llun, 麻豆官网首页入口 news grab
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu rhieni, disgyblion ac athrawon yn protestio yn erbyn cau ysgolion yr haf diwethaf

Tyfu mae'r gwrthwynebiad i ddogfen drafod newydd gan Gyngor Sir y Fflint i ad-drefnu addysg - gallai rhai dewisiadau olygu cau neu uno ysgolion.

Dywed yr awdurdod bod rhaid newid er mwyn lleihau nifer y lleoedd wrth gefn mewn ysgolion er mwyn sicrhau bod arian yn cael ei wario ar addysg yn hytrach nag ar gostau adeiladu.

Cafodd cynllun gwreiddiol a gyflwynwyd y llynedd ei dynnu n么l wedi nifer o brotestiadau cyhoeddus gan rieni, disgyblion ac athrawon.

Mae rhestr o ddewisiadau newydd nawr wedi ei chyflwyno, ond mae gwrthwynebwyr ar Lannau Dyfrdwy a Bwcle yn dweud y byddan nhw'n brwydro yn erbyn cau neu uno ysgolion.

Ar Lannau Dyfrdwy un dewis fyddai uno ysgolion uwchradd John Summer's a Chei Conna ar un safle.

Mae rhieni wedi cyhoeddi negeseuon o wrthwynebiad ar wefan Facebook yn dilyn cyfarfod cyhoeddus gyda swyddogion addysg yn gynharach yr wythnos hon.

Dywed rhai bod angen ysgolion eu hunain ar y ddwy gymuned oherwydd maint y boblogaeth.

Mae cynghorwyr Llafur wedi sefydlu gr诺p arall ar Facebook o'r enw 'Hands Off Connah's Quay High School' er mwyn gwrthwynebu'r cynllun yno.

Deiseb

Ym Mwcle, un o bedwar dewis fydd dan drafodaeth yw symud Ysgol Gynradd Westwood i Ysgol Uwchradd Elfed, gan ddarparu addysg i blant rhwng 3 ac 16 oed ar un safle.

Ers cyfarfod gyda swyddogion addysg yr wythnos ddiwethaf, mae rhieni wedi ffurfio Gr诺p Gweithredu Rhieni Westwood er mwyn gwrthwynebu'r dewis.

Dywed trefnwyr eu bod wedi casglu 700 o enwau ar ddeiseb sy'n dweud y byddai'n frawychus i blant bach orfod rhannu safle gyda disgyblion yn eu harddegau.

Lansiodd Cyngor Sir y Fflint ymgynghoriad ym mis Chwefror i Adolygiad Ysgolion Ardal 2012 sy'n dweud mai adolygu ysgolion yn Nhreffynnon, Glannau Dyfrdwy, Bwcle, Mynydd Isa' a'r Wyddgrug yw'r cam nesaf yn ei strategaeth i foderneiddio ysgolion.

Ychwanegodd yr awdurdod bod yr holl syniadau sydd wedi eu cyflwyno yn bethau i'w trafod, ac na fydd penderfyniadau yn cael eu gwneud gan gynghorwyr tan i fwy o ymgynghori ddigwydd.

Bydd y cyfnod ymgynghori yn dod i ben fis nesaf.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol