Mwy o gyllid i brifysgolion?

Ffynhonnell y llun, bbc

Disgrifiad o'r llun, Mae gyfundrefn newydd yn gambl i Lywodraeth Cymru yn 么l Syr John Cadogan

Bydd mwyafrif prifysgolion Cymru yn gweld cynnydd bach yn eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, a hynny oherwydd yr incwm o ffioedd dysgu uwch.

Ond bydd Prifysgol Glynd诺r yn Wrecsam yn gweld toriad o 20% yn ei chyllideb.

Mae ffigyrau newydd gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW) yn dangos y bydd yr arian craidd y mae'n rhoi i bob sefydliad yn gostwng o gyfartaledd o 37% o'i gymharu 芒'r llynedd, ond bydd y gwahaniaeth yn cael ei dalu gan y miliynau o bunnau o ffioedd myfyrwyr.

Mewn tair o brifysgolion Cymru, bydd yr incwm o ffioedd yn uwch na'r arian a glustnodwyd ar eu cyfer gan HEFCW yn 2012-13.

O fis Medi eleni, bydd prifysgolion yn medru codi hyd at 拢9,000 y flwyddyn am eu cyrsiau - mae 8 o'r deg sefydliad yng Nghymru wedi dewis gwneud hynny.

Bydd mwyafrif y myfyrwyr o Gymru yn talu'r 拢3,400 cyntaf gyda Llywodraeth Cymru yn talu'r gwahaniaeth lle bynnag y byddan nhw'n dewis astudio.

Amcangyfrif HEFCW yw y bydd y polisi yna'n costio 拢111 miliwn yn 2012/13, gyda'r ffigwr yn codi dros y tair blynedd nesaf.

Ar y llaw arall maen nhw'n amcangyfrif y bydd prifysgolion Cymru yn elwa o tua 拢55 miliwn mewn ffioedd uwch gan fyfyrwyr o weddill y DU.

'Gambl'

Dywedodd yr Athro Philip Gummett, prif weithredwr HEFCW: "Dylai'r sustem newydd olygu y bydd y buddsoddiad mewn addysg uwch yng Nghymru yn cynyddu o 2012/13, ac fe fydd hynny o fudd i fyfyrwyr a staff gan gael effaith bositif ar gyrsiau ac ymchwil.

"Mae'r sector cyhoeddus cyfan mewn amgylchedd ariannu heriol, ond rydym yn hyderus y bydd prifysgolion Cymru yn parhau i gynnig y profiad i fyfyrwyr sydd wedi ennill clod droeon a thro."

Ond dywedodd llywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Syr John Cadogan, y bydd y sustem newydd yn gambl i Lywodraeth Cymru yn y dyfodol.

Dywedodd: "Rhan o bolisi Llywodraeth Cymru yw caniat谩u i fyfyrwyr sy'n byw yng Nghymru i gael cymhorthdal sylweddol i'w ffioedd ac fe fydd y gost o hynny yn dod o'r arian fyddai wedi mynd i brifysgolion.

"Mae'n gambl felly - ac rwy'n defnyddio'r gair gambl yn ofalus - maen nhw'n gamblo y byddan nhw'n medru denu llawer o fyfyrwyr o Loegr neu o dramor er mwyn cyfateb i'r myfyrwyr sy'n gadael."

'Siom'

Dywedodd Prifysgol Glynd诺r eu bod yn siomedig y byddan nhw'n gweld gostyngiad o 20% yn eu cyllideb i'r gwrthwyneb i brifysgolion eraill Cymru.

Penderfynodd y brifysgol godi ffioedd o 拢6,643 ar gyfartaledd yn 2012/13.

Dywedodd Is-Ganghellor a phrif weithredwr y brifysgol, yr Athro Michael Scott:

"Yn naturiol mae'r Brifysgol yn siomedig am y cyhoeddiad yma, ond roedden ni'n disgwyl gostyngiad ar y raddfa yma ac wedi bod yn cynllunio am hynny am beth amser.

"Wrth osod lefel y ffioedd i fyfyrwyr ar gyfer 2012/13 fe wnaethon ni ddewis ffioedd fyddai'n lleihau'r baich ar ysgwyddau myfyrwyr a Llywodraeth Cymru, ond fyddai hefyd yn cwrdd 芒 gofynion cyfiawnder cymdeithasol a datblygu economaidd Llywodraeth Cymru.

"Mae'n drueni felly bod y Brifysgol dan anfantais o gymharu 芒 phrifysgolion eraill am ddilyn polisi'r llywodraeth."

Bydd Prifysgol Cymru Casnewydd yn gweld cynnydd o 0.7% yn ei chyllideb o'r flwyddyn ddiwethaf a dywedodd llefarydd:

"Er y bydd pwysau chwyddiant yn gwneud y flwyddyn nesaf yn anodd iawn, rydym yn cydnabod fod gan HEFCW dasg anodd i gydbwyso'i gyllideb a chwrdd 芒'r gofynion i gefnogi myfyrwyr yn ariannol.

"Yn y cyfnod ariannol anodd y mae pawb yn eu hwynebu, bydd Prifysgol Casnewydd yn parhau i ddefnyddio'i hadnoddau yn ofalus er mwyn cadw at ein blaenoriaethau i'r dyfodol, a'r ymrwymiadau a wnaethom yn ein cynllun ffioedd 2012."

'Angen arbedion'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Bydd y gyfundrefn ffioedd a gyflwynwyd mewn addysg uwch o 2012/13 yn arwain at gyllid uwch ar y cyfan i sefydliadau addysg uwch yng Nghymru.

"Mae hyn wedi ei gyflawni mewn cefndir o doriadau i Gymru yn adolygiad gwariant diweddaraf llywodraeth y DU.

"Rydym wedi ymrwymo o hyd i ddarparu addysg uwch o safon uchel yng Nghymru.

"Ond yn yr hinsawdd economaidd bresennol, mae'n hanfodol bod y sector addysg uwch yng Nghymru yn gwneud y gorau o'r buddsoddiad cyhoeddus sylweddol gan Lywodraeth Cymru, yn delifro newid ac yn chwilio am arbedion effeithlonrwydd."