麻豆官网首页入口

Cynllun 拢75m 'i greu 12,000 o swyddi'

  • Cyhoeddwyd
ArianFfynhonnell y llun, 麻豆官网首页入口 elvis
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rhaglen yw hon ar gyfer y rheini sy'n barod am waith ond heb allu dod o hyd i swydd

Mae cynllun gwerth 拢75m wedi ei lansio gyda'r nod o greu 12,000 o gyfleoedd gwaith newydd yng Nghymru dros y tair blynedd nesaf.

Nod Twf Swyddi Cymru yw creu cyfleoedd gwaith newydd i bobl ifanc ddi-waith, 16-24 oed, am gyfnod o 6 mis a rhoi'r cyfle i fusnesau ehangu a gwneud y swyddi hynny'n rhai parhaol.

Caiff y bobl ifanc eu talu ar sail yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu'n uwch am o leiaf 25 awr yr wythnos.

Rhaglen yw hon ar gyfer y rheini sy'n barod am waith ond heb allu dod o hyd i swydd.

'Creu cyfleoedd'

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones: "Mae Twf Swyddi Cymru yn gweithredu un o'r prif bolis茂au i hyrwyddo twf economaidd a swyddi yng Nghymru.

"Nid yn unig bydd y cynllun hwn yn creu cyfleoedd i bobl ifanc ddi-waith, sydd wedi dioddef yn fwy na'r cyffredin yn y dirwasgiad, ond bydd y swyddi hyn hefyd yn swyddi newydd, gan helpu busnesau Cymru i ehangu."

Ond dywedodd llefarydd mentergarwch y Ceidwadwyr Cymreig, Nick Ramsay AC: "Rydym wedi bod yn galw ers amser maith ar y Llywodraeth Lafur i ddechrau gweithredu er mwyn darparu'r amodau ar gyfer twf economaidd yng Nghymru.

Disgrifiad,

Gwenllian Grigg fu'n holi Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, ar y Post Cynta fore Mawrth.

"Bydd angen i'r cynllun hwn gael ei fonitro'n iawn, a'i addasu os oes angen, er mwyn iddo fod yn effeithiol.

Yn dilyn cynllun peilot, dywedodd Jeff Cuthbert AC, y Dirprwy Weinidog Sgiliau, fod gan gwmn茂au bach a mawr o'r sector preifat o bob rhan o Gymru ddiddordeb mewn ymuno 芒'r rhaglen, gan gynnig cyfleoedd i bobl ifanc.

颁飞尘苍茂补耻

Ymhlith y cwmn茂au sydd wedi ymuno 芒'r rhaglen y mae:

  • Target Group. Meddalwedd a gwasanaethau TG

  • Cwmni yswiriant Admiral

  • TB Davies ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Un o brif gyflenwyr sgaffaldau'r DU i ddiwydiant

  • Meritor Cwmbran. Peirianneg, Gweithgynhyrchwyr Br锚cs Cerbydau Trwm

  • Pennaf Cyf. Gwasanaethau tai yn y Canolbarth a'r Gogledd

  • Emrys Art Supplies, 芒 siopau yng Nghaerfyrddin a Hwlffordd

  • Cerrig Granite & Slate. Pwllheli. Un o brif arbenigwyr gwaith cerrig y DU.

Esboniodd Mr Cuthbert y bydd y rhaglen hefyd yn rhoi cyfle i fynd i'r afael 芒 rhai materion penodol o fewn economi Cymru. Bydd tair ffrwd benodol yn targedu graddedigion, microfusnes a swyddi gwyrdd.

'Arloesol'

Un o'r cwmn茂au sy'n cymryd rhan yng nghynlluniau peilot y rhaglen yw Scarlet Communications yng Nghaerfyrddin.

Dywedodd Jason Rosser, Rheolwr Gyfarwyddwr Scarlet Communications: "Roedden ni wrth ein boddau'n cael cymryd rhan yn y cynllun arloesol hwn.

"Nid yn unig rydyn ni wedi gallu cynnig profiad gwerthfawr i bobl ifanc frwdfrydig a thalentog, ond mae hefyd wedi rhoi cyfle inni ehangu ein busnes i feysydd newydd. Yn sgil y rhaglen, rydyn ni'n gobeithio gallu creu swyddi parhaol newydd a chynnig gwaith llawn amser i bawb yn y cynllun."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol