麻豆官网首页入口

Athrawon o blaid streicio

  • Cyhoeddwyd
Undebau athrawonFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y ddau undeb yr un diwrnod yn pleidleisio o blaid gweithredu diwydiannol

Mae'r ddau brif undeb athrawon wedi pleidleisio o blaid gweithredu diwydiannol oherwydd "ymosodiadau ideolegol" ar addysg.

Penderfynodd cynhadledd yr NUT yn Torquay o blaid mwy o streiciau oherwydd toriadau i bensiynau yn y sector cyhoeddus.

Dywedodd yr undeb y byddai'n anelu at beidio 芒 streicio yn ystod arholiadau'r haf.

Mae'r 麻豆官网首页入口 yn deall bod cynadleddwyr o blaid mwy o streiciau "rhanbarthol" yn yr haf a gweithredu gydag undebau eraill yn yr hydref.

Ynghynt yn eu cynhadledd yn Birmingham pleidleisiodd undeb yr NASUWT yn unfrydol o blaid gweithredu diwydiannol yn yr hydref.

Cyfeiriodd trysorydd yr undeb, Brian Cookson, at yr "ymosodiadau mileinig" ar amodau gwaith athrawon.

"Mae addysg yn y llinell flaen oherwydd yr ymosodiad hwn ar y sector cyhoeddus.

'Rhyfel'

"Rhaid i ni amddiffyn ein hunain oherwydd yr ymosodiadau ar gyflog, pensiynau a'n hawliau," meddai.

Dywedodd y dirprwy brifathro, Martin McCusker, fod y llywodraeth wedi "cyhoeddi rhyfel" ar athrawon ac mai addysg ac iechyd oedd y "targedau mawr" ar 么l yn y sector cyhoeddus.

Bydd arweinyddiaeth yr undeb yn trefnu ymgyrch fydd yn cynnwys gweithredu nad yw'n cynnwys streicio - a pharatoi ar gyfer pleidlais ar gyfer streicio.

"Y broblem yw bod ymyrraeth y llywodraeth yn rhwystro athrawon rhag codi safonau ar gyfer disgyblion," meddai Chris Keates, yr ysgrifennydd cyffredinol, cyn y ddadl yn y gynhadledd.

68

Mae newidiadau pensiwn yn golygu mwy o gyfraniadau a chodi'r oedran ymddeol i 68.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Addysg: "Hon yw'r fargen orau o dan yr amgylchiadau.

"Mae'n gwarantu un o'r pensiynau gorau i athrawon ac yn lleihau costau cynyddol i'r trethdalwr.

"Rydym wedi bod yn trafod 芒'r undebau am fisoedd ac wedi ceisio ymateb i'w pryderon."