麻豆官网首页入口

Ysgolion: 'Rhaid cwtogi lleoedd gwag'

  • Cyhoeddwyd
School classroomFfynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Estyn bod rhai cynghorau wedi bod yn araf yn ymateb

Rhaid torri nifer y lleoedd gwag mewn ysgolion er mwyn arbed arian a gwella safonau medd y corff arolygu ysgolion, Estyn.

Dywed Estyn bod rhaid i awdurdodau lleol wneud mwy o ad-drefnu, neu gau, ysgolion sydd 芒 nifer fawr o leoedd gwag.

Mae nifer y lleoedd gwag ar gynnydd gyda bron 10,000 yng Nghymru'r llynedd.

Dywed Estyn bod cynghorau "wedi bod yn araf i adnabod a chwblhau cynlluniau allai arwain at arbedion sylweddol".

Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu'r adroddiad gan y corff.

Mae'n gyfrifoldeb ar bob awdurdod lleol i sicrhau bod digon o leoedd i ddisgyblion yn eu hysgolion.

'Tasg anodd'

Mae adroddiad Estyn yn cydnabod bod cydbwyso'r niferoedd ac osgoi lleoedd gwag yn gallu bod yn dasg anodd, ond mae'n dweud hefyd mai ychydig o welliant sydd wedi bod ers 2006 pan gafodd canllawiau eu cyhoeddi ar sut i fynd i'r afael 芒'r broblem.

Canfu'r adroddiad bod mwy o leoedd gwag yn 2011 nag oedd yn 2006, ac nad oes yr un awdurdod lleol wedi cyrraedd targed Llywodraeth Cymru o ddim mwy na 10% o leoedd gwag ar draws ysgolion cynradd ac uwchradd.

Mae'r adroddiad yn rhoi'r bai ar rai awdurdodau lleol y maen nhw'n eu disgrifio fel "amharod" i wneud penderfyniadau anodd am gau ysgolion ac ad-drefnu.

Mae'n dadlau mai'r dyma'r ffordd fwyaf effeithiol o ailgyfeirio arian tuag at wella safonau addysgol.

Ymhlith nifer o argymhellion, mae'n credu y gallai dull safonol o amcangyfrif cost lleoedd gwag gynorthwyo pobl i ddeall yr angen am newid.

Dywedodd prif arolygydd Estyn, Ann Keane: "Mae'n dasg anodd iawn oherwydd, ar hyn o bryd, rydym yn gweld cynnydd yn nifer y disgyblion cynradd, ond lleihad yn nifer y disgyblion mewn ysgolion uwchradd.

"Ond er hynny mae awdurdodau lleol wedi bod yn araf i adnabod a chwblhau cynlluniau allai arwain at arbedion sylweddol."

Dywedodd bod rhaid i Lywodraeth Cymru a'r cynghorau lleol "asesu effaith addysgol ac ariannol cynlluniau rhesymoli blaenorol ac effaith parhaus lefelau uchel o leoedd gwag ar bob agwedd o ariannu gwelliannau ysgolion".

'Priodol neu ormodol?'

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn croesawu'r adroddiad a gomisiynwyd gan y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews.

Dywedodd llefarydd y byddai'n ymateb i'r argymhellion, gan ychwanegu: "Rydym yn derbyn nad yw pob lle gwag yn ddireswm, ond rhaid i awdurdodau lleol ystyried os yw'r cyflenwad o leoedd ac, yn fwy penodol, nifer yr ysgolion mewn mannau penodol yn briodol neu yn ormodol.

"Ble mae modd trefnu ysgolion yn fwy effeithiol ac effeithlon, rhaid i awdurdodau lleol weithredu.

"Rhaid iddynt hefyd gynllunio'n ofalus, oherwydd mewn rhai mannau mae nifer y disgyblion ifanc yn y system wedi cynyddu dros y blynyddoedd diweddar".

'Anetholedig'

Ond wrth ymateb, mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi condemnio Estyn am "geisio gosod agenda gwleidyddol".

Dywedodd llefarydd y gymdeithas ar addysg Ffred Ffransis: "Dim ond ychydig o ddyddiau sydd ers yr etholiadau lleol, ac mae'r corff anetholedig Estyn eisoes wedi ceisio gosod yr agenda gwleidyddol trwy ddweud wrth awdurdodau lleol fod yn rhaid cau ysgolion i gael gwared 芒 lleoedd gwag.

"Dyma ran o batrwm cyfoes o gyrff anetholedig yn tanseilio democratiaeth gan honni o hyd "nad oes dewis".

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol