Rhaglen i wella llythrennedd yn ysgolion Cymru

Ffynhonnell y llun, Science Photo Library

Disgrifiad o'r llun, Agwedd bwysig, medd y gweinidog, fydd cyflwyno profion darllen Cymraeg a Saesneg i ddisgyblion

Mae Gweinidog Addysg Cymru, Leighton Andrews, yn cyhoeddi rhaglen genedlaethol sydd 芒'r nod o godi safonau llythrennedd yn ysgolion Cymru.

Bydd y rhaglen yn cael ei lansio'n ffurfiol yn Ysgol Cwm Garw ym Mhen-y-bont ar Ogwr fore Iau, ac mae'n rhestru'r camau y bydd angen i Lywodraeth Cymru eu cymryd er mwyn codi safonai dros y pum mlynedd nesaf.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y ddogfen yn cynnwys mesurau i gynorthwyo a chefnogi athrawon ym mhob pwnc, ac ar draws pob cyfnod addysg, i fod yn athrawon llythrennedd.

Mae cymorth hefyd wedi ei dargedu i ddisgyblion, datblygu profion darllen cenedlaethol a phwysleisio pwysigrwydd rhannu arferion da a'u defnyddio mewn modd sy'n gyson.

Bydd y camau gweithredu'n canolbwyntio ar y pedair thema ganlynol:

  • Pennu disgwyliadau a safonau cenedlaethol;
  • Mwy o gymorth a datblygiad;
  • Ymyriad mwy trylwyr wedi'u targedu'n benodol;
  • Mwy o atebolrwydd a her.

Cymhwyster

Disgrifiad o'r sainNia Thomas fu'n holi Leighton Andrews

Fel rhan o'r cynllun, bydd gan athrawon y cyfle i wneud gwaith astudio ychwanegol wrth addysgu llythrennedd, gan gynnwys modiwl llythrennedd penodol ar gyfer y cymhwyster Gradd Meistr mewn Ymarfer Addysgol.

Fe fydd ysgolion cynradd ac uwchradd yn defnyddio'r rhaglen i sicrhau bod y gwaith o addysgu sgiliau llythrennedd a rhifedd yn cael ei ymgorffori ym mhob pwnc ar draws y cwricwlwm.

Agwedd bwysig arall, medd y gweinidog, yw cyflwyno profion darllen Cymraeg a Saesneg ar gyfer disgyblion blwyddyn 2 a blwyddyn 9.

Bydd y profion yn fodd i gynnig darlun cliriach i athrawon o allu disgybl i ddarllen, ac yn cynnig modd i'w cynorthwyo drwy helpu i weld eu cryfderau a'u gwendidau unigol.

'Dim yn bwysicach'

"Mae gwella lefelau llythrennedd a rhifedd yn un o brif ymrwymiadau ein Rhaglen Lywodraethu," meddai Mr Andrews.

Disgrifiad o'r sainAled Scourfield fu'n Ysgol Gymraeg Teilo Sant yn Llandeilo i weld y gwaith a chael ymateb i'r cynllun newydd

"Does dim yn bwysicach na sicrhau bod gan ein pobl ifanc y sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i ddarllen, ysgrifennu a chyfathrebu.

"Mae enghreifftiau lu o waith addysgu a dysgu gwych ym maes llythrennedd ar draws Cymru. Mae Ysgol Cwm Garw eisoes yn arwain y ffordd drwy ddefnyddio dulliau addysgu gwahanol mewn ffordd sy'n llawn dychymyg ac mewn ffordd ddeallus.

"Mae'n rhaid i ni sicrhau y bydd pob un o'n dysgwyr yn elwa ar waith addysgu llythrennedd sy'n rhagorol a'u bod yn datblygu'r sgiliau sydd mor hanfodol i'w llwyddiant yn y dyfodol.

"Bydd y Rhaglen Llythrennedd Genedlaethol yn sicrhau mwy o gysondeb ac eglurder yn ein ffordd o dracio cynnydd disgyblion a hefyd yn sicrhau'r cymorth, yr her a'r atebolrwydd sydd eu hangen yn ein hysgolion ar yr un pryd."

Mewn ymateb dywedodd Owen Hathaway o undeb yr NUT bod y cynllun "yn gam positif ymlaen".

Roedd yn gobeithio y byddai'r cynllun yn rhoi mwy o eglurdeb ac arweniad i athrawon ac mae'n gobeithio y bydd yr aelodau yn derbyn y cynllun ond bod angen gweld sut y byddai'r cynllun yn cael ei weithredu.

Dywedodd Dr Philip Dixon, Cyfarwyddwr Addysg undeb ATL eu bod nhw'n croesawu'r cynllun ond eu bod yn ymwybodol bod 'na lawer o waith i'w wneud cyn eu bod yn gallu bod yn hyderus bod y safon yn codi i'r safon dderbyniol.

"Rydym yn gobeithio y bydd y llywodraeth yn cadw hyn yn eu blaenoriaeth ac na fydd 'na newid polis茂au ac ati yn y blynyddoedd nesaf.

"Fe fydd athrawon yn croesawu hyn os bydd yn eu caniat谩u i ddysgu ac yn rhoi cefnogaeth iddyn nhw."