麻豆官网首页入口

Tywydd garw'n achosi problemau

  • Cyhoeddwyd
High winds brought down a tree on Newport Road in Cardiff city centreFfynhonnell y llun, Twitter: @Big_Bike_Blue
Disgrifiad o鈥檙 llun,

High winds brought down a tree on Newport Road in Cardiff city centre

Mae rhannau o Gymru wedi cael eu taro gan stormydd gyda glaw trwm a gwyntoedd cryfion o 60 m.y.a.

Y de a'r gorllewin gafodd y gwaethaf o'r tywydd ddydd Gwener, yn enwedig yr arfordir, ac mae Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru wedi rhybuddio am y posibilrwydd o lifogydd.

Bu'n rhaid canslo digwyddiad amaethyddol o bwys, sef Sioe Sirol Ceredigion ac Aberystwyth ddydd Sadwrn.

Bu hefyd rhaid gohirio cystadleuaeth Cwpan Slalom Can诺io'r Byd ym Mae Caerdydd ddydd Gwener.

Bydd y rasus dan sylw cael eu cynnal ddydd Sadwrn, ac fe fydd tocynnau dydd Gwener yn ddilys o hyd.

Rhybuddion

Erbyn nos Wener, roedd Asiantaeth yr Amgylchedd wedi cyhoeddi naw rhybudd i baratoi am lifogydd ar draws Cymru ac un rhybudd llifogydd llawn ar Afon Rheidol yn Aberystwyth.

Bydd y rhybuddion i baratoi yn :-

  • Ardaloedd Afon Glaslyn ac Afon Dwyryd, o Ddyffryn Ardudwy i Nant Gwynant;

  • Afonydd canol Ceredigion gan gynnwys yr Aeron ond nid y Teifi;

  • Afonydd yn ardal y Tywi i'r de o Landeilo ond heb gynnwys Llandeilo;

  • Afonydd yn ardal y Teifi i'r gogledd o Lanybydder;

  • Ardaloedd afonydd Mawddach ac Wnion o'r Friog i Ganllwyd a Rhydymain;

  • Ardaloedd Afon Dyfi o Ddinas Mawddwy a Llanbrynmair i'r aber gan gynnwys Machynlleth;

  • Afon Gwy ym Mhowys;

  • Yr Hafren a'i hisafnoydd;

  • Ardaloedd Afon Dysynni o Dywyn i Minffordd.

Cafodd rhybuddion cynharach am ardaloedd Llynfi ac Ogwr, y Teifi islaw Llanybydder, y Rhondda ac afonydd yng ngogledd-orllewin Cymru o Dinas Dinlle i'r Bermo eu tynnu n么l brynhawn Gwener.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

A fallen tree on the Taff Trail in Cardiff during Friday's stormy weather

Dywedodd Alun Williams o Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru y gallai'r glaw sy'n dal i ddisgyn ddydd Gwener achosi risg o dd诺r ar wyneb y ffordd ac ar yr arfordir.

"Y prif risg ar hyn o bryd yw llifogydd d诺r ar y ffyrdd. Rhaid i yrwyr fod yn ofalus."

Roedd hefyd yn annog pobl i fod yn wyliadwrus ger yr arfordir.

"Un broblem yw fod pobl yn gweld hyn fel rhyw ddigwyddiad i'w weld," medd Mr Williams.

"Yn anffodus mae pobl wedi marw o ganlyniad i bethau felly. Nid yw pobl yn gwerthfawrogi'r risg na chryfder y tonnau, ac mae'n hawdd iddynt gael eu 'sgubo i ffwrdd."

Glaw trwm

Mae rwng 50 - 100mm o law (2-4 modfedd) yn bosib ar dir uchel yng nghanolbarth Cymru erbyn diwedd dydd Gwener.

Yn y cyfamser mae swyddogion cyngor yn Sir Benfro wedi dweud eu bod wedi delio gydag achosion o goed yn cwympo, gan gau rhai ffyrdd.

Daeth coed i lawr hefyd yn ardal Llansamlet o Abertawe, a bu rhan o ffordd Queensway yn Nghasnewydd ar gau fore Gwener.

Collodd nifer o bobl eu cyflenwad trydan yn Ninas Powys ym Mro Morgannwg pan ddaeth gwifrau trydan i lawr yn y gwyntoedd cryfion.

Ond dywedodd cyflwynydd tywydd 麻豆官网首页入口 Cymru, Derek Brockway:

"Dros y penwythnos, bydd y tywydd yn gwella gan droi'n fwy sych a braf gyda pheth heulwen a gwyntoedd yn gostegu, ond efallai y bydd cawodydd ddydd Sul."

Mae'r rhagolygon yn dweud y bydd yn tywydd ansefydlog yn parhau am o leia' 10 niwrnod arall gyda chymysgedd o heulwen, cawodydd a chyfnodau hirach o law ar adegau.

Hefyd gan y 麻豆官网首页入口

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol