麻豆官网首页入口

Rhybudd llifogydd mewn grym

  • Cyhoeddwyd
Llifogydd yn Nhalybont
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn Nhalybont mae nifer o bobl yn cysgodi yn Neuadd y pentre' ar 么l i hyd at bum troedfedd o dd诺r lifo i 25 cartref

Mae pedwar rhybudd llifogydd a 12 rhybudd llifogydd - byddwch yn barod mewn grym yng Nghymru yn dilyn glaw trwm a gwyntoedd cryfion nos Wener a bore Sadwrn.

Ac mae nifer o ffyrdd ynghau, yn enwedig yn ardal Aberystwyth.

Y de a'r gorllewin gafodd y gwaethaf o'r tywydd nos Wener a bore Sadwrn, yn enwedig yr arfordir.

Mae'r gwasanaethau bryso feysydd carafannau i'r gogledd o Aberystwyth.

Canslo Sioe Ceredigion

Brynhawn dydd Sadwrn dywedodd Cyngor Ceredigion fod tagfeydd traffig 4.5 milltir o hyd ar ffordd yr A487 i'r de o Aberystwyth.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor eu bod yn cynghori pobl yn yr ardal i beidio teithio oni bai fod hynny'n angenrheidiol.

Mae gwasanaethau tr锚n a bws rhwng Caersws ac Aberystwyth wedi cael eu gohirio Ddydd Sadwrn.

Bu'n rhaid canslo digwyddiad amaethyddol o bwys, sef Sioe Sirol Ceredigion ac Aberystwyth ddydd Sadwrn.

Yn 么l Traffig Cymru roedd y ffyrdd canlynol ynghau am 5pm nos Sadwrn: -

  • Mae ffordd yr A4120 ym Mhenparcau ger Aberystwyth ar gau yn dilyn llifogydd yn Boulevard St Brieuc a Ffordd Penparcau (FFordd yr A487)

  • Mae ffordd yr A44 ynghau yn dilyn llifogydd rhwng ffordd yr A4159 (Capel Dewi) a ffordd yr A4120 (Ponterwyd).

  • Mae ffordd yr A487 ynghau rhwng ffordd y B4572 (Aberystwyth) a ffordd yr A489 yn Heol Maengwyn, Machynlleth. Mae ffordd yr A487 ar agor gyda gofal ond mae llifogydd yn dal i effeithio Derwenlas, Pont Dyfi, Bow Street, Glandyfi a Chomins Coch.

  • Mae ffordd yr A493 yn Nhywyn ar gau yn dilyn llifogydd rhwng Ffordd y Coleg yn Llwyngwril a Stryd Brook yn Nhywyn sy'n effeithio pobl sy'n teithio rhwng Aberdyfi a'r Bermo.

  • Mae ffordd y B4572 Ffordd Clarach) ynghau yn dilyn llifogydd ar L么n Glan-y-m么r.

  • Mae ffordd y B4353 (Borth) ynghau ynghau.

  • Mae ffordd y B4405 ynghau yn dilyn llifogydd a thirlithiad rhwng ffordd yr A487 (Tal-y-llyn) a ffordd yr A493 (Bryncrug).

Rhybuddion

Erbyn prynhawn Sadwrn roedd Asiantaeth yr Amgylchedd wedi cyhoeddi pum rhybudd llifogydd.

Dywedodd llefarydd ar ran yr asiantaeth eu bod yn pryderu am rannau o'r Afon Rheidol sy'n dai i godi, a'r Afon Fathew ym Mryncrug, ger Tywyn.

Mae'r rhybuddion hynny yn: -

  • Yr Afon Teifi rhwng Llanbedr-pont-Steffan a Llanybydder;

  • Yr Afon Ystwyth yn Rhydyfelin a Llanfarian ger Aberystwyth;

  • Yr Afon Rheidol yn Aberystwyth;

  • Yr Afon Clarach yn Llongorwen yng Nghlarach.

Mae'r asiantaeth hefyd wedi cyhoeddi 12 rhybudd i baratoi am lifogydd ar draws Cymru.

Bydd y rhybuddion i baratoi yn :-

  • Ardaloedd Afon Glaslyn ac Afon Dwyryd, o Ddyffryn Ardudwy i Nant Gwynant;

  • Afonydd canol Ceredigion gan gynnwys yr Aeron ond nid y Teifi;

  • Afonydd yn ardal y Tywi i'r de o Landeilo ond heb gynnwys Llandeilo;

  • Afonydd yn ardal y Teifi i'r de o Lanybydder;

  • Ardaloedd afonydd Mawddach ac Wnion o'r Friog i Ganllwyd a Rhydymain;

  • Ardaloedd Afon Dyfi o Ddinas Mawddwy a Llanbrynmair i'r aber gan gynnwys Machynlleth;

  • Afon Gwy ym Mhowys;

  • Yr Hafren a'i hisafnoydd;

  • Ardaloedd Afon Dysynni o Dywyn i Minffordd.

  • Afonydd yng ngogledd Ceredigion gan gynnwys pentrefi yr afon Clarach, yr afon Rheidol a'r afon Ystwyth.

  • Afonydd i'r gogledd o Afon Tywi ond nid yn cynnwys y Bran yn Llanymddyfri.

  • Afonydd yn ardal y Teifi i'r gogledd o Lanybydder gan gynnwys Llanybydder.

Dywedodd Alun Williams o Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru ei fod yn annog pobl i fod yn wyliadwrus ger yr arfordir.

"Un broblem yw fod pobl yn gweld hyn fel rhyw ddigwyddiad i'w weld," medd Mr Williams.

"Yn anffodus mae pobl wedi marw o ganlyniad i bethau felly. Nid yw pobl yn gwerthfawrogi'r risg na chryfder y tonnau, ac mae'n hawdd iddynt gael eu 'sgubo i ffwrdd."

Dywedodd cyflwynydd tywydd 麻豆官网首页入口 Cymru, Derek Brockway: "Dros y penwythnos, bydd y tywydd yn gwella gan droi'n fwy sych a braf gyda pheth heulwen a gwyntoedd yn gostegu, ond efallai y bydd cawodydd ddydd Sul."

Mae'r rhagolygon yn dweud y bydd yn tywydd ansefydlog yn parhau am o leia' 10 niwrnod arall gyda chymysgedd o heulwen, cawodydd a chyfnodau hirach o law ar adegau.

Hefyd gan y 麻豆官网首页入口

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol