Mwy o honiadau wedi eu trosglwyddo i'r heddlu

Mae mwy o honiadau wedi dod i'r amlwg wedi i dad feirniadu cyngor sir ar 么l i athro glymu dwylo ei fab chwech oed.

Nawr mae gwybodaeth newydd yngl欧n 芒 honiadau o gam-drin plant yn Sir Benfro wedi eu rhoi yn nwylo'r heddlu.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod "gwybodaeth newydd" wedi ei roi i'w swyddogion ddydd Mercher a bod y wybodaeth eu hanfon ymlaen at yr heddlu gan Gyngor Sir Penfo.

Yn gynharach yn y dydd bu arweinydd y cyngor yn cwrdd 芒 gweinidogion ar 么l i'r awdurdod gael eu cyhuddo o fethu yn eu dyletswydd gwarchod plant.

Roedd honiadau bod plant wedi eu cloi mewn "corneli seibiant" oedd wedi eu padio.

Mae'r honiadau yn dyddio'n 么l i 2009 pan wnaeth un o weithwyr y cyngor, Hayley Wood, gwyn swyddogol.

Dywedodd bod yr ystafell yn Neyland yn cael ei defnyddio fel modd o gosbi a bod hynny'n anghyfreithlon.

Mae hi'n dweud wrth yr adran gwasanaethau cymdeithasol ddweud y dylid cadw'r mater o lygaid y cyhoedd.

Er ei bod yn cydnabod fod yna ymchwiliad i'r cyhuddiad honnai fod hyn wedi ei wneud gan weithwyr cymdeithasol heb gymhwyster.

Mae arweinydd y cyngor, Jamie Adams, wedi derbyn llythyr gan Lywodraeth Cymru sy'n cyfeirio at ddigwyddiad ym mis Mawrth pan honnwyd bod athro wedi clymu dwylo Scott Lee, disgybl yn Ysgol Fabanod Meads yn Aberdaugleddau.

Dywedodd y tad, Mike Lee, wrth 麻豆官网首页入口 Cymru: "Roedd ymchwiliad annibynnol - daeth ymchwilydd o Lywodraeth Cymru a holi fi a 'ngwraig a phawb oedd yn gysylltiedig 芒'r mater.

Rhybudd

"Doedden ni ddim yn fodlon iawn ar ymateb y cyngor."

Roedd yr heddlu wedi dweud wrth y teulu y gallai'r athro gael rhybudd pe bai'r teulu'n mynd 芒'r mater ymhellach.

"'Sen i'n gwneud hyn i blentyn, fe fydden i'n cael fy arestio," meddai'r tad.

"Ond oherwydd taw athro sy wedi gwneud hyn maen nhw'n cymryd camau disgyblu."

Mae'r llythyr at Mr Adams wedi dweud nad oes ymchwiliad disgyblu wedi bod i gwynion am ystafell arbennig mewn uned i blant ag anghenion addysgol ac ymddygiad arbennig - er gwaethaf ymchwiliad cychwynnol ac argymhellion yr heddlu.

Ers hynny, dywedodd gweinidogion eu bod wedi clywed am o leiaf bump o ystafelloedd mewn ysgolion yn y sir lle oedd plant yn cael eu cloi i mewn, "ac fe allai fod llawer mwy".

Fe wnaeth Mr Adams gwrdd Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, a'r Dirprwy Weinidog dros Blant a Phobl Ifanc, Gwenda Thomas ddydd Mercher.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:

"Mae yna gwestiynau difrifol yn parhau i'w hateb am yr hyn sydd wedi digwydd ac ymateb yr awdurdod lleol a'i swyddogion.

"Rydym yn deall bod yna dystiolaeth newydd wedi dod i'r fei yn y 24 awr ddiwethaf sydd wedi ei roi yn nwylo'r heddlu.

"Prif bryder Llywodraeth Cymru trwy gydol yr amser yw diogelu plant yn Sir Benfro."

'Pob ffydd'

Ar 么l y cyfarfod dywedodd Mr Adams: "Fe gefais gyfarfod adeiladol ac roeddwn yn gallu cyflwyno tystiolaeth am welliannau polis茂au a ffyrdd o weithredu nad oedden nhw o bosib yn ymwybodol ohonyn nhw.

"Roedden nhw am gael sicrwydd gennyf bod polis茂au oedd eisoes wedi eu cydnabod fel rhai da yn rhan annatod o waith yr awdurdod wrth ddiogelu plant.

"Fe wnes i dderbyn y pwyntiau a wnaed am y mater a'r her sy'n ein hwynebu fel awdurdod.

"Mae gennyf bob ffydd yn ein swyddogion sydd eisoes wedi cychwyn sicrhau gwelliannau a'u bod yn gallu cwblhau'r hyn sydd ei angen."

Mae gan y cyngor tan 5pm ar Fehefin 22 i ymateb yn ffurfiol cyn y bydd gweinidogion yn penderfynu pa gamau i'w cymryd.