Adleoli adran ddamweiniau ysbyty dros y Sul

Disgrifiad o'r llun, Mae'r gwaith yn rhan o gynllun gwerth 拢38 miliwn yn ysbyty Bronglais

Bydd adran ddamweiniau ac achosion brys Ysbyty Bronglais yn cael ei hadleoli dros y Sul fel rhan o gynllun gwerth 拢38 miliwn.

Caiff yr adran ei lleoli yn Adran Cleifion Allanol a Ward Tirion yr ysbyty rhwng 8pm ddydd Gwener a dydd Sul.

Bydd gwasanaeth Meddyg Teulu y Tu Allan i Oriau hefyd yn cael ei adleoli dros dro i'r Adran Cleifion Allanol.

Yn 么l Bwrdd Iechyd Hywel Dda mae Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi'i chynnwys yn llawn yn y broses o gynllunio'r adleoli dros dro hwn.

Caiff arwyddion eu gosod yn yr ysbytai i arwain cleifion i Adran y Cleifion Allanol, Heol Caradog, yn ystod yr adleoliad dros dro.

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Hywel Dda fod yn rhaid adleoli'r Adran Damweiniau ac Achosion Brys er mwyn galluogi gwaith i gael ei wneud ar brosiect Blaen T欧.

Bydd y cynllun hwn yn cynnwys Adran Damweiniau ac achosion brys newydd, Uned Penderfyniadau Clinigol, a theatrau llawfeddygol yn Ysbyty Bronglais.

Mae'r gwaith yn rhan o gynllun pum mlynedd i weddnewid cyfleusterau yn yr ysbyty ddechreuodd yn ystod y gwanwyn y llynedd.