Cyngor Sir Penfro: Mwy o honiadau

Mae bachgen 16 oed wedi dweud wrth 麻豆官网首页入口 Cymru iddo gael ei gloi mewn stafell wedi ei phadio, heb ffenestri, mewn uned arbennig yn Neyland am ddiwrnod cyfan.

Roedd Ethan Parry wedi cael ei anfon i'r uned cyfeirio disgyblion pan oedd yn 12 oed am ei fod yn medru bod yn dreisgar.

Mewn llythyr at Gyngor Sir Penfro mae Llywodraeth Cymru wedi beirniadu'r ffaith nad oedd unrhyw un wedi wynebu camau disgyblu mewnol yn sgil y defnydd o'r ystafell.

Dyw'r ystafell ddim wedi ei defnyddio ers 2009.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Dydyn ni erioed wedi clywed unrhyw awgrym na chwyn fod unrhyw un wedi ei gloi mewn ystafell am ddiwrnod cyfan."

Mae anhwylder semanteg bragmatig ar Ethan ac mae ganddo broblemau ymddygiad.

Sylw

Dywedodd ei dad, Andrew Parry, ei fod wedi penderfynu cysylltu 芒 麻豆官网首页入口 Cymru yn sgil sylw'r cyfryngau am warchod plant yn Sir Benfro.

Er ei fod yn cyfaddef fod Ethan yn medru bod yn blentyn anodd ac yn dreisgar, mae wedi dweud bod yr hyn ddigwyddodd yn gwbl annerbyniol.

Honnodd nad oedd neb o'r cyngor yn fodlon derbyn cyfrifoldeb am yr hyn ddigwyddodd.

Ychwanegodd ei fod am i rywun wynebu camau disgyblu.

Erbyn hyn mae Ethan yn 16 - yn gweithio - ac yn gobeithio mynd i astudio arlwyo mewn coleg .

Sawl ymchwiliad

Mewn datganiad fe ddywedodd y cyngor fod sawl ymchwiliad wedi bod yn ymwneud 芒'r heddlu a'r gwasanaethau cymdeithasol yngl欧n 芒'r defnydd o ystafell seibiant.

Doedd dim camau troseddol wedi eu cymryd, meddai, yn sgil yr ymchwiliadau.

Dywedodd bod nifer o argymhellion wedi bod wedi'r ymchwiliadau.

Mae'r bwrdd gwarchod plant lleol a'r cyngor wedi eu derbyn ac yn y broses o'u cyflwyno.

Ychwanegodd fod y cyngor yn ymchwilio i faterion disgyblu yn ymwneud 芒'r defnydd o ystafell seibiant.

Mae'r Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, a'r Dirprwy Weinidog dros Blant a Phobl Ifanc, Gwenda Thomas, wedi anfon llythyr at arweinydd y cyngor, Jamie Adams.

Ddim yn briodol

Mae'r llythyr wedi pwysleisio fod y defnydd o ystafelloedd seibiant weithiau'n dderbyniol ac yn addas i blant gyda phroblemau ymddygiad neu anghenion dysgu ychwanegol.

Ond mae'r ddau weinidog wedi dweud nad yw hi'n briodol i gloi ystafell oni bai bod amgylchiadau eithriadol ac wedyn dim ond am gyfnodau byr ac o dan oruchwyliaeth.

Dyw hi ddim yn briodol defnyddio'r ystafelloedd i gosbi plentyn, medden nhw.

Ddydd Mercher bu arweinydd y cyngor yn cwrdd 芒 gweinidogion ar 么l i'r awdurdod gael eu cyhuddo o fethu yn eu dyletswydd gwarchod plant.