麻豆官网首页入口

Cyngor sir: 'Seiliau cadarn'

  • Cyhoeddwyd
Arweinydd Cyngor Penfro Jamie Adams
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Mr Adams wedi dweud bod y sir wedi cyflwyno nifer o welliannau.

Mae arweinydd Sir Benfro wedi dweud bod y cyngor wedi gosod seiliau cadarn er mwyn mynd i'r afael 芒 honiadau fod plant yn cael eu cam-drin.

Roedd Jamie Adams yn ymateb i lythyr gweinidogion yr wythnos ddiwethaf oedd yn dweud nad oedd y sir yn cyflawni eu dyletswydd o ran gofalu am blant.

Eisoes mae Llywodraeth Cymru wedi bygwth gorfodi'r cyngor o i gydymffurfio os bydd angen.

Mae honiadau diweddar yn cynnwys plant yn cael eu cloi mewn "ystafelloedd seibiant" ac athro'n clymu dwylo plentyn tu 么l i'w gefn.

Cwestiynau difrifol

Eisoes mae ymchwiliadau'r corff arolygu ysgolion, Estyn, ac Arolygiaeth Gwasanaethau Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru wedi beirniadu'r sir.

Ar 么l cwrdd 芒 Mr Adams ddydd Mercher diwethaf dywedodd Llywodraeth Cymru fod yna gwestiynau difrifol yn parhau yngl欧n ag ymateb y sir.

Erbyn hyn, mae Mr Adams wedi ysgrifennu llythyr naw tudalen o hyd at y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, a'r Dirprwy Weinidog dros Blant a Phobl Ifanc, Gwenda Thomas.

Ynddo mae'n dweud bod newid yn "niwylliant y cyngor" wrth i bolis茂au diogelu plant gael eu cryfhau.

Dywedodd iddo hefyd weld newid yn y modd yr oedd uwchswyddogion yn ymdrin 芒'r pwnc.

Mae ei lythyr yn ymateb i feirniadaeth benodol ac yn cyfeirio at gamau y mae'r awdurdod wedi eu cymryd.

Gwelliannau

Mae wedi dweud bod y sir wedi cyflwyno nifer o welliannau, gan gynnwys:

  • Cyflwyno cynllun gweithredol gafodd ei lunio ar 么l cais gweinidogion;

  • Tynhau y systemau cadw golwg ac archwilio cefndir;

  • Sefydlu pwyllgor craffu fydd yn mynd i'r afael 芒 materion diogelu, pwyllgor y bydd aelod o'r gwrthbleidiau yn ei gadeirio;

  • Cyflwyno gwelliannau i bolisi'r cyngor yngl欧n 芒 staff sydd am ddatgelu cam;

  • Mwy o adnoddau i ymchwilio i honiadau;

  • Gwella perfformiad yr uned arbennig yn Neyland.

Wrth gloi ei lythyr, mae wedi dweud: "Nid ydym eto wedi cyrraedd y llinell derfyn ond rwyf o'r farn fod y dystiolaeth sy'n cael ei chynnwys yn y llythyr yn dangos ein bod wedi cyflwyno gwelliannau ac ar y trywydd cywir."

Roedd llythyr gwreiddiol y gweinidogion yn honni bod athro wedi clymu dwylo disgybl yn Ysgol Meads yn Aberdaugleddau y tu cefn i'w ddwylo.

Hefyd roedd honiadau bod plant yn uned arbennig Neyland yn 2009 wedi eu cloi mewn ystafell wedi ei phadio heb olau naturiol nac awyr iach.

Mae'r uned yn darparu ar gyfer plant ag anghenion arbennig neu 芒 phroblemau ymddygiad.

Gwahardd

"Rydym wedi rhoi sicrwydd i'r bwrdd gweinidogol nad yw plant yn cael eu cloi mewn ystafelloedd wedi eu padio mewn unrhyw ysgol yn Sir Benfro," meddai Mr Adams.

"Fel dwi'n deall mae'r pryder sydd wedi ei fynegi yn ddiweddar yn s么n am yr hyn oedd yn digwydd yn "hanesyddol" mewn ysgol yn Noc Penfro.

Dywedodd fod y sir wedi anfon llythyr i ysgolion yn 2009 yn gwahardd gweithredu o'r fath.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol