麻豆官网首页入口

Galw ar ysgolion i wneud mwy i herio'r disgyblion dawnus

  • Cyhoeddwyd

Dim ond ychydig o ysgolion uwchradd yng Nghymru sy'n nodi, yn cefnogi ac yn herio disgyblion mwy abl a dawnus, yn 么l adroddiad swyddogol.

Dywed Estyn, y corff sy'n arolygu ysgolion, mai dim ond mewn ychydig iawn o ysgolion uwchradd y caiff disgyblion mwy abl o gefndiroedd difreintiedig gymorth i oresgyn rhwystrau.

Nid yw disgyblion mwy abl a dawnus yn cyflawni cystal yng Nghymru ag y maen nhw'n Lloegr.

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn cydnabod fod angen gwneud mwy i annog ysgolion i fynd i'r afael 芒'r sefyllfa.

Roedd Estyn yn asesu pa mor dda yr oedd ysgolion ac awdurdodau lleol yng Nghymru am adnabod a rhoi cyfleoedd i thua 20% o ddisgyblion oedd yn alluog neu dalentog.

Ers 2008, dywed Estyn fod asesiadau ar gyfer cyfnod allweddol 3 yn dangos nad oes yna "ddigon o ddisgyblion yn cyflawni uwchlaw'r lefel ddisgwyliedig ar gyfer eu hoedran ym mhynciau craidd Cymraeg neu Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth."

Ar lefel TGAU, nid oes digon o ddisgyblion yn cyflawni graddau A* neu A yn y pynciau craidd hyn.

'Ystod o brofiadau'

Dywed Ann Keane, Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, bod llawer o ddisgyblion dawnus yn ysgolion uwchradd Cymru ac nad ydi eu potensial yn cael ei ddatblygu'n ddigon llawn.

"Mae angen i ysgolion ystyried a ydyn nhw'n cynnig ystod lawn o brofiadau a chyfleoedd i ddisgyblion a fydd yn eu galluogi nhw i gyrraedd eu potensial a ffynnu."

Yn 么l y corff arolygu mae disgyblion mwy abl a dawnus yn elwa o:

  • ddulliau personol o ddysgu;

  • gallu cael at athrawon arbenigol; a

  • mentora ynghylch eu dewisiadau gyrfaol.

Mae'r adroddiad hefyd yn s么n am yr angen i sefydlu perthynas dda gyda'r rheini.

Agwedd arall sy'n cael sylw yw'r "diffyg parhad yn y pontio o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd ar gyfer y disgyblion hyn."

Lle mae'r trefniadau pontio yn dda, mae hyn yn cael effaith gadarnhaol ar gyflawniad hirdymor disgyblion, meddai'r adroddiad.

Mae'r adroddiad yn cyfeirio at lwyddiant Ysgol Gyfun Cwm Rhymni.

"Mae'r rhaglen ar gyfer datblygu disgyblion mwy abl a dawnus mewn mathemateg wedi gwella dyheadau a safonau cyflawniad disgyblion," meddai'r adroddiad.

'Canlyniadau rhagorol'

"Yn benodol, mae merched wedi elwa ar gael athrawon benywaidd sy'n fodelau o ymddygiad ac sy'n annog doniau mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg.

"Mae canlyniadau'r ysgol ar gyfer ffiseg a bioleg ar ddiwedd blwyddyn 9 yn rhagorol," ychwanegodd yr adroddiad.

Mae Estyn wedi amlygu nifer o argymhellion ar gyfer ysgolion uwchradd, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru er mwyn herio disgyblion mwy abl a dawnus i berfformio'n well.

Mae'r arolygiaeth yn annog athrawon, penaethiaid ac awdurdodau lleol i weithredu ar sail yr argymhellion sydd wedi'u hamlygu yn yr adroddiad a rhannu'r wybodaeth hon gyda'r holl staff a rhieni perthnasol fel y gall disgyblion mwy abl a dawnus gyflawni'r safonau uchaf posib.

Dywedodd Gweinidog Addysg Cymru, Leighton Andrews, ei fod eisoes wedi amlygu ei gynlluniau i godi safonau ymhlith holl ddisgyblion Cymru.

"Mae hynny'n golygu fod angen sicrhau fod yna gefnogaeth i sicrhau fod plant a phobl ifanc yn cyrraedd eu llawn potensial, ac mae hynny'n cynnwys y disgyblion mwyaf abl a galluog.

"Tra rydym yn cydnabod wrth ddarllen adroddiad Estyn fod angen gwneud mwy i annog ysgolion i nodi'r disgyblion mwyaf talentog, rydym yn nodi'r gefnogaeth sy'n cael ei gynnig gan Lywodraeth Cymru a'r Gymdeithas Genedlaethol ar gyfer Plant mewn Addysg.

"Fe fyddwn yn ysgrifennu at yr awdurdodau lleol i dynnu eu sylw at yr adroddiad ac yn eu hannog i fynd i'r afael 芒'r argymhellion sydd yn yr adroddiad."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol