Tywydd: Busnesau yn poeni

Ffynhonnell y llun, Andrew Henley

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Parc Carafanu Glan yr Afon, Llandre ei effeithio gan y llifogydd diweddar

Fe allai'r tywydd gwael diweddar olygu'r diwedd i rai busnesau yn y maes twristiaeth, yn 么l rhai mudiadau.

Dywedodd Chris Osborne, Cadeirydd Cynghrair Twristiaeth Cymru, fod yna bryder ymhlith busnesau am y dyfodol.

Mae o'n credu bydd rhai busnesau yn rhoi'r gorau iddi ar 么l haf arall o law trwm a llifogydd.

Yng Nghymru, y gogledd a'r canolbarth sydd wedi dioddef waethaf.

Dywedodd Mr Osborne wrth 麻豆官网首页入口 Cymru: "Dwi ddim yn si诺r oes fydd pethau'n gwaethygu, ond yn sicr mae yna son am brinder ymwelwyr ac mae yna bryder am y dyfodol.

"Mae nifer o drefi yn dawel, ac mae'r meysydd parcio yn wag - dyw ymwelwyr ddim yn dod hyn yn oed ddim ond am un diwrnod."

Un maes calonogol yw bod gwyliau hunan ddarpariaeth yn dal eu tir, meddai.

Gwersylla

"Rydym newydd weld cyfnod o ddirwasgiad felly mae'r sefyllfa yn anodd ac yna mae'r holl law ar ben hynny,"

Dywedodd Ashfrod Price, o Ganolfan Arddangos Ogofau Dan yr Ogof ym Mannau Brycheiniog ei fod yn rhannu gofidion Mr Osborne.

Mae Mr Price hefyd yn berchennog safle gwersylla ac wedi bod yn ymwneud 芒 thwristiaeth am 45 o flynyddoedd.

"Dwi heb weld haf cyn waethed, mae'r busnes gwersylla wedi gostwng tua 60%, ac mae'r unedau hunan ddarpariaeth lawr tua 25%."

Colledion

Mae Mr Price o'r farn y dylai Cymru geisio bod yn leoliad sy'n darparu gwyliau ar gyfer pob math o dywydd.

"Hwn yw'r chweched haf gwael, a dwi meddwl bod angen i bobl drafod beth yw'r ffordd orau ymlaen."

Mae Mr Osborne yn disgwyl y bydd fusnesau yn dechrau canolbwyntio ar gyfnod hanner tymor yr hydref a'r Nadolig, er mwyn ceisio gwneud yn iawn am eu colledion.