麻豆官网首页入口

Galw am strategaeth cartrefi iach

  • Cyhoeddwyd
Double glazed window in house
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd yr ymchwil yn ystyried a all gwelliannau i'r cartref wella iechyd yn ogystal

Bydd gwybodaeth am ymweliadau ag ysbytai a meddygon teulu yn cael ei defnyddio i ganfod pa wahaniaeth mae gwelliannau i gartrefi yn ei wneud i iechyd pobl.

Bydd astudiaeth yn cymharu iechyd tenantiaid tai cyngor a chymdeithasau tai yn Sir Gaerfyrddin cyn ac ar 么l i'w cartrefi gael eu huwchraddio.

Cafodd yr ymchwil ei nodi gan brif swyddog meddygol Cymru wrth iddo gyhoeddi ei adroddiad blynyddol.

Mae Dr Tony Jewell am weld strategaeth "tai iach", gydag ysmygu yn flaenoriaeth.

Bydd yr ystadegau'n cael eu cymharu gyda thenantiaid mewn rhannau eraill o Gymru er mwyn dadansoddi sut mae gwell tai yn effeithio ar iechyd.

Iechyd gwell

Bydd cynllun gan Gyngor Sir Gaerfyrddin yn dod 芒 chartrefi i gyd at safon cenedlaethol drwy osod ceginau, ystafelloedd ymolchi, ffenestri dwbl ac insiwleiddio, ynghyd 芒 gosod goleuo a chloeon gwell.

Bydd y GIG yn gweithio gydag ymchwilwyr o Brifysgolion Caerdydd ac Abertawe i weld pa wahaniaeth fydd hynny'n wneud i drigolion.

Cafodd astudiaeth debyg yn ymwneud 芒 200 o blant gydag asthma yn Wrecsam ei wneud yn 2004.

Dangosodd yr astudiaeth bod gwella gwresogi ac awyru yng nghartrefi'r plant yn arwain at iechyd gwell a llai o ddyddiau i ffwrdd o'r ysgol.

Dywedodd y Prif Swyddog Meddygol ei bod yn bryd i Lywodraeth Cymru ganolbwyntio ar gartrefi yn dilyn gwaith da mewn ysgolion ac yn y gweithle.

Dywedodd Dr Jewell: "Gall nifer o ffactorau effeithio ar ein hiechyd yn y cartref: tlodi, mwg ail-law, tlodi tanwydd, effeithiolrwydd ynni, hylendid bwyd a hyd yn oed y pryder am ddrwgweithredu yn y cartref.

"Mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu ar yr holl faterion yma. Hoffwn eu gweld yn cael eu tynnu at ei gilydd mewn un strategaeth am gartrefi, ac i gydlynu gweithredu ar ran y bobl fwyaf bregus yng Nghymru.

"Rwy'n credu mai taclo ysmygu yn y cartref ddylai fod y flaenoriaeth fel rhan o hyn."

Bydd adroddiad olaf Dr Jewell yn cael ei gyhoeddi ddydd Mawrth, gan y bydd yn gadael ei swydd dros yr haf.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol