麻豆官网首页入口

Ail Siambr: Y gwrthryfel mwya' yn erbyn y llywodraeth

  • Cyhoeddwyd
T欧'r ArglwyddiFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd mwyafrif ASau o blaid yr egwyddor o ddiwygio T欧'r Arglwyddi

Mae dros 90 o Aelodau Seneddol Ceidwadol, gan gynnwys rhai o Gymru, wedi pleidleisio yn erbyn cynnig am yr egwyddor o ddiwygio T欧'r Arglwyddi.

Hwn yw'r gwrthryfel mwyaf yn erbyn y Llywodraeth Glymblaid ers i David Cameron ddod i rym yn 2010.

Enillodd y llywodraeth 芒 mwyafrif o 338 ond fe ohiriodd bleidlais ar gynnig fyddai wedi gosod amserlen bendant yngl欧n 芒'r amser y dylai Aelodau Seneddol drafod y cynlluniau.

Mae'r llywodraeth wedi dweud y byddan nhw'n bwrw 'mlaen 芒 chynlluniau i ddiwygio.

Y tri o Gymru ymhlith y 91 bleidleisiodd yn erbyn y cynnig ar yr egwyddor o ddiwygio oedd Guto Bebb (Aberconwy), Alun Cairns (Bro Morgannwg) a Simon Hart (Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro).

Bwriad y llywodraeth ydi sicrhau fod o leiaf dri chwarter o aelodau T欧'r Arglwyddi wedi eu hethol.

Sylweddol

"Rhaid mynd i'r afael 芒 sefydliad sydd wedi methu," meddai dirprwy Cameron, Nick Clegg, wrth agor y drafodaeth ddeuddydd.

Er bod y Cabinet yn cefnogi'r cynlluniau, meddai, roedd yn ymwybodol fod carfan sylweddol ar y meinciau cefn Ceidwadol yn erbyn.

Dywedodd Dirprwy Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Simon Hughes, na fyddai ei blaid efallai'n cefnogi newid ffiniau etholaethol os na fyddai'r Ceidwadwyr gant y cant tu 么l diwygio'r Arglwyddi.

Yn absenoldeb amserlen y disgwyl yw misoedd ar fisoedd o drin a thrafod yngl欧n a'r manylion.

Mae rhai yn amau bellach a oes 'na unrhyw obaith i'r cynlluniau gael eu cymeradwyo cyn yr etholiad nesaf.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol