Adroddiad am ddyfodol ysbytai 'yn annibynnol'

Ffynhonnell y llun, 麻豆官网首页入口 news grab

Disgrifiad o'r llun, Mae cynnig o ddiffyg hyder yn y gweinidog

Mae awdur adroddiad am ddyfodol ysbytai Cymru wedi dweud bod ei ganfyddiadau yn "annibynnol".

Wfftiodd yr economegydd iechyd, Yr Athro Marcus Longley o Brifysgol Morgannwg, honiadau ei fod wedi "gweithio law yn llaw" 芒 gweision sifil.

Wrth roi tystiolaeth i ACau gwadodd ei fod wedi cysylltu mewn modd amhriodol ag uwchswyddogion Llywodraeth Cymru.

Honnodd Yr Athro Longley fod ei "onestrwydd wedi'i bardduo".

Cwestiynu

Roedd y tair gwrthblaid wedi cyflwyno cynnig o ddiffyg hyder yn y Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths yngl欧n 芒'r mater.

Ond methu wnaeth eu hymgais gyda 28 yn pleidleisio o blaid a 29 yn erbyn y cynnig.

Pan gyhoeddwyd yr adroddiad ym mis Mai dywedodd Mrs Griffiths fod yr adroddiad yn annibynnol a bod y canfyddiadau fod angen newidiadau mawr i'r Gwasanaeth Iechyd wedi eu hysgrifennu o safbwynt meddygol nid gwleidyddol.

Disgrifiad o'r llun, Yr Athro Longley: Ddim wedi cysylltu mewn modd amhriodol ag uwchswyddogion Llywodraeth Cymru.

Ond roedd honiadau bod cyfres o e-byst rhwng yr awdur a gweision sifil, ddaeth i law 麻豆官网首页入口 Cymru, yn awgrymu bod 'na le i gwestiynu annibyniaeth yr adroddiad gafodd ei gomisiynu gan brif weithredwyr byrddau iechyd Cymru.

Dywedodd yr athro wrth y pwyllgor iechyd: "Oes unrhyw dystiolaeth o weithio law yn llaw yn y dogfennau? Ydyn nhw wedi eu gwneud yn fwy 'deniadol'? Na, yw'r ateb pendant.

"Mae 'na nifer o enghreifftiau lle rydym yn dweud bod angen gofal o ran dadansoddi'r data."

Ychwanegodd fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth nad oedd yn cefnogi'r ddadl o blaid newidiadau.

"Mae'r dystiolaeth yno i bawb ei gweld," meddai.

Honnodd Yr Athro Longley nad oedd Llywodraeth Cymru wedi ceisio dylanwadu ar yr adroddiad o gwbl

"Pe baen nhw wedi ceisio gwneud hynny ni fyddwn i wedi caniat谩u hynny ond nid oedd unrhyw ymgais," meddai.

Clinigol

Dywedodd yr athro ei fod wedi anfon e-byst at swyddogion i ofyn am wybodaeth oedd ar gael i'r cyhoedd.

Dywedodd fod cyfeiriad at "ffeithiau hollbwysig" yn un o'r e-byst yn gais am wybodaeth am ganlyniadau clinigol, gan gynnwys faint o bobl oedd yn marw mewn ysbytai neu ddim yn gwella'n llwyr wedi iddyn nhw adael yr ysbyty.

Roedd e-byst yn cael "eu hanfon ar frys" yn aml, meddai, ac roedd modd i'r iaith yn rhai ohonyn nhw "gael ei chamddehongli".

Wedyn dywedodd y Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths, wrth y pwyllgor fod proses baratoi'r adroddiad yn "ddi-fai".

"Roedd yn hollol briodol i'm swyddogion ymwneud 芒'r Athro Longley. Roeddwn i'n gwybod eu bod yn gwneud hynny.

"Roedd yn hollol arferol ond doeddwn i ddim yn goruchwylio hynny.

"Wnes i ddim dylanwadu ac ni wnaeth fy swyddogion i chwaith".