Adroddiad yn cynnwys argymhellion i gau ysbytai

Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation

Disgrifiad o'r llun, Cafodd deiseb i gadw Ysbyty Blaenau Ffestiniog ar agor ei chyflwyno i gadeirydd y bwrdd iechyd ddydd Mercher

Mae adroddiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cynnwys newidiadau arfaethedig i wasanaethau iechyd yn y gogledd.

Ymhlith yr argymhellion mwyaf dadleuol yw'r un i gau Ysbyty Blaenau Ffestiniog ac Ysbyty'r Fflint.

Ond mae'r adroddiad o blaid cadw gwasanaethau mamolaeth a phlant.

Mae'n bosib y bydd unedau m芒n anafiadau Blaenau Ffestiniog, Bae Colwyn, Y Fflint, Yr Wyddgrug, Y Waun, Llangollen a Rhuthun yn cau.

Pelydr-X

Disgrifiad o'r sainAdroddiad Rhian Price ar gynlluniau arfaethedig i ad-drefnu iechyd yn y gogledd

Gallai'r adrannau pelydr-X gau ym Mlaenau Ffestiniog, Bryn Beryl ger Pwllheli, Tywyn, Ysbyty Eryri, Yr Wyddgrug a Rhuthun.

Mae'r argymhellion o blaid newid y ddarpariaeth ar gyfer henoed fydd yn golygu cau ward Hafan ym Mryn Beryl a Ward Meirion yn Nolgellau.

Mae'r bwrdd iechyd yn trafod yr adroddiad ddydd Iau cyn y bydd ynghoriad cyhoeddus yn dechrau cyn gweithredu ar unrhyw benderfyniadau terfynol.

Daw'r argymhellion ar ddiwedd adolygiad, proses oedd ar adegau yn ddadleuol iawn, a gychwynnodd yn 2009.

Mae ymgyrchwyr a gwleidyddion wedi ymateb i'r adroddiad.

Dydd Mercher fe gafodd deiseb i achub yr ysbyty ym Mlaenau Ffestiniog ei chyflwyno i gadeirydd y bwrdd iechyd.

Ond cynyddu mae'r pryderon bod y frwydr wedi ei cholli er y bydd cyfnod ymgynghorol arall.

Deg ysbyty

Mae'r adroddiad yn argymell y bydd nifer o ysbytai yn ganolog i'w gwasanaeth:-

  • Ysbyty Penrhos Stanley;
  • Ysbyty Gwynedd;
  • Ysbyty Alltwen;
  • Ysbyty Cymunedol Dolgellau;
  • Ysbyty Llandudno;
  • Ysbyty Glan Clwyd;
  • Ysbyty Dinbych;
  • Ysbyty Cymunedol Treffynnon;
  • Ysbyty Cymunedol Glannau Dyfrdwy;
  • Ysbyty Wrecsam Maelor.

Yn y ddogfen mae gweledigaeth ar gyfer y dyfodol sy'n golygu bydd cleifion yn rheoli eu hiechyd eu hunain gyda gweithwyr iechyd a chymunedol ynghyd 芒 gweithwyr cymdeithasol a'r sector gwirfoddol.

Bydd cleifion hefyd yn cynllunio eu gofal dewisol naill ai yn lleol neu mewn canolfannau rhagoriaeth ac fe fydd gofal brys ar gael o fewn amser diogel, ac o fewn pellter rhesymol.

Disgrifiad o'r sainGarry Owen yn holi cyn-Aelod Seneddol Jon Owen Jones a fu'n gyfrifol am iechyd yn ystod ei gyfnod fel gweinidog yn Swyddfa Cymru.

Gwella safon

Nod yr adolygiad, meddai'r adroddiad, oedd gwella safon, diogelwch, dibynadwyedd a phrofiad, ynghyd 芒 rheoli neu leihau costau yn wyneb cynnydd yn y boblogaeth.

Mae'r adroddiad wedi dweud y bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i effaith y newidiadau ar yr iaith Gymraeg.

Er mwyn ceisio tawelu ofnau pobl mewn ardaloedd lle bydd gwasanaethau'n diflannu, mae'r adroddiad wedi dweud y bydd Gwasanaeth Gofal yn y Cartref yn cael ei wella a'i estyn.

Yn ogystal bydd y bwrdd yn anelu at fwy o gydweithio rhwng gwasanaethau gofal iechyd a gofal cymdeithasol, a gwasanaethau lleol eraill.

Effaith ar ardaloedd

Fesul ardal mae'r argymhellion yn cynnwys:-

  • Meirionnydd - newid gwasanaethau Ysbyty Coffa Blaenau Ffestiniog a datblygu cynllun gyda Chyngor Gwynedd am fwy o integreiddio gwasanaethau yn y dref. Bydd hyn yn golygu newid gwasanaethau'r ysbyty presennol i ddarparu gwell gwasanaethau yn y gymuned. Byddai gwelyau a gwasanaeth m芒n anafiadau yn cael eu symud i Ysbyty Alltwen;
  • Gogledd Sir Ddinbych - disodli gwasanaethau Ysbyty'r Royal Alexandra yn Y Rhyl ac Ysbyty Cymunedol Prestatyn, gan ddatblygu un adnodd i gynnig gwasanaethau iechyd a chymdeithasol;
  • Canol a De Sir Ddinbych - disodli gwasanaethau Ysbyty Cymunedol Llangollen, gan ddatblygu canolfan adnoddau gofal gydag ystod eang o wasanaethau iechyd a chymdeithasol. Bydd y ddarpariaeth o welyau yn gyfuniad o gomisiynu o'r sector gofal annibynnol a gwelyau ysbyty yn Y Waun;
  • Gogledd-orllewin Sir y Fflint - newid gwasanaeth yn Ysbyty'r Fflint. Bydd canolfan newydd yn cael ei datblygu gyda Chyngor Sir y Fflint i ddarparu gwasanaethau iechyd a chymdeithasol. Ysbyty Treffynnon fydd yn darparu gwelyau a gwasanaeth m芒n anafiadau.