麻豆官网首页入口

Adroddiad addysg yn 'hoelen arall yn arch Cyngor Sir Ynys M么n'

  • Cyhoeddwyd
Swyddfeydd Cyngor Sir Ynys M么n, Llangefni
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Comisiynwyr sy'n gyfrifol am Gyngor Sir Ynys M么n ers dros flwyddyn

Mae cyn-arweinydd Cyngor Sir Ynys M么n wedi dweud fod yr adroddiad beirniadol o gyfundrefn addysg y sir gan yr arolygydd Estyn yn "hoelen arall yn arch y cyngor sir".

Honnodd Clive McGregor wrth y Post Cyntaf hefyd bod diffyg democratiaeth ar yr ynys wedi i Lywodraeth Cymru benodi comisiynwyr i oruchwylio'r cyngor bron i 18 mis yn 么l.

Mewn adroddiad gafodd ei gyhoeddi ddydd Mawrth, dywedodd Estyn fod safonau gwasanaethau addysg yr ynys "yn anfoddhaol".

Dywed yr adroddiad y dylai Llywodraeth Cymru ymyrryd yn uniongyrchol yn yr adran addysg.

Cyhoeddodd y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, a'r Gweinidog Llywodraeth Leol, Carl Sargeant, y bydd Bwrdd Adferiad yn cael ei sefydlu o fewn y cyngor.

Mae Mr McGregor yn cydnabod bod 'na wendidau ond dywedodd hefyd petai cynghorwyr wrth y llyw y byddai'n disgwyl i un neu ddau ymddiswyddo cymaint yw difrifoldeb yr adroddiad.

'Gwaith yn ormod'

Disgrifiad,

John Stevenson yn holi Clive McGregor

Fe wnaeth Mr McGregor ymddiswyddo fel arweinydd o ganlyniad i ymddygiad rhai o'i gyd-gynghorwyr.

Fe wnaeth Mr Sargeant, benodi comisiynwyr i reoli'r cyngor a cheisio rhoi trefn yno yn 2011.

Mae Mr McGregor yn honni bod y dasg o weddnewid y cyngor "yn ormod" i'r comisiynwyr.

"Mae 'na nifer o ddigwyddiadau lle mae p诺er wedi ei gymryd gan aelodau etholedig.

"Mae 'na deimlad fod Caerdydd wedi diddymu p诺er etholedig dros flwyddyn a chwarter yn 么l a nawr cael yr adroddiad yma.

"Does dim modd cuddio oddi wrth yr adroddiad, ond hefyd mae'n hawdd gofyn be sydd wedi bod yn digwydd pan nad oedd gan aelodau etholedig b诺er.

"Doedd gan y cyngor ddim pwyllgor gwaith, y r么l yna yn cael ei wneud gan y comisiynwyr, ac efallai bod y gwaith wedi bod yn ormod iddyn nhw.

"Petai cynghorwyr yn dal efo'r p诺er heddiw fe fyddwn i'n disgwyl i un neu ddau ymddiswyddo."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol