Prinder 'brawychus' o feddygon yng Nghymru

Ffynhonnell y llun, PA

Disgrifiad o'r llun, Mae'r prinder yn fwy amlwg mewn rhai meysydd penodol

Mae prinder meddygon yn ysbytai Cymru wedi cael ei ddisgrifio fel brawychus gan gorff arolygu iechyd.

Dywed bron hanner byrddau iechyd Cymru wrth 麻豆官网首页入口 Cymru eu bod yn cael trafferth denu meddygon.

Daw'r newyddion wrth i Ysbyty Castell-nedd Port Talbot orfod gwrthod derbyn achosion brys a chyfeiriadau gan feddygon teulu.

Dywedodd Carol Lamyman-Davies, cyfarwyddwr Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru, bod trafferthion recriwtio yn gostus i fyrddau iechyd.

"Mae'n sefyllfa frawychus i fod yn ddi," meddai.

"Mae meddygon dros dro ac o asiantaethau yn cael eu defnyddio i lenwi bylchau, ac mae hynny'n ffordd gostus o ddelio gyda phroblemau hir-dymor argyfyngus."

Mae'r prinder ym meysydd seiciatreg, paediatreg a meddygaeth argyfwng yn arbennig o ddrwg.

Disgrifiad o'r sainAdroddiad Steffan Powell.

Anfantais

Dywedodd Ms Lamyman-Davies y gallai'r byrddau iechyd wella'r sefyllfa drwy fanteisio ar gynlluniau ad-drefnu i ganoli rhai triniaethau.

"Yr hyn sydd ei angen yw gwasanaethau cynaliadwy o safon uchel ac yn ddiogel," meddai.

"Yr hyn sy'n cael ei weld yw gormod o ysbytai yn cynnig gormod o wasanaethau arbenigol.

"Mae gennym adrannau man anafiadau mewn rhannau o Gymru sydd ond yn gweld tri chlaf bob dydd.

"Mae angen i glinigwyr gadw'u datblygiad proffesiynnol i lefel uchel, ac ni fydd hynny'n digwydd os nad ydynt yn cael eu defnyddio i weld cleifion bob dydd."

Ychwanegodd bod materion eraill yn rhoi Cymru o dan anfantais wrth geisio denu staff meddygol.

"Mae yna ddryswch ymhlith graddegion o'r tu allan i Gymru am enwau ein byrddau iechyd," meddai.

"Fe fyddwn i'n dychmygu mai ychydig iawn sy'n gwybod lle mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, ac rwy'n credu bod teimlad y tu allan i Gymru bod rhaid i raddedigion siarad Cymraeg er mwyn gweithio yma."

Cadarnhaodd staff ym Mwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg bod newidiadau yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot oherwydd prinder meddygon.

Yn dilyn ymgyrch recriwtio yn Dubai, dim ond un meddyg addas ddaeth i'r fei.

Bydd achosion brys nawr yn cael eu symud i ysbytai yn Abertawe a Phen-y-bont ar Ogwr ond fe fydd gwasanaethau eraill yng Nghastell-nedd yn parhau.

Ar draws Cymru

Mae byrddau iechyd eraill Cymru wedi cadarnhau eu bod nhw hefyd yn diodde' oherwydd prinder meddygon mewn rhai meysydd.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Cwm Taf bod rhai llawdriniaethau orthopedig wedi cael eu canslo yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant oherwydd trafferthion wrth recriwitio meddygon dan hyfforddiant.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ei bod yn cael trafferth recriwtio meddygon ym meysydd meddygaeth plant, iechyd meddwl a meddygaeth frys.

Mae Bwrdd Iechyd Addysgol Powys yn dweud eu bod wedi methu recriwtio ymgynghorydd ym maes gofal yr henoed, ond wedi defnyddio meddygon dros dro i lenwi'r bwlch.

Roedd Bwrdd Iechyd Hywel Dda, sy'n gwasanaethu'r canolbarth, yn cyfeirio ar yr angen i ddatblygu mwy o wasanaethau arbenigol gan fod y bwrdd yn diodde' o brinder cenedlaethol gan fod ganddynt bedwar ysbyty cymharol fach dros ardal ddaearyddol eang.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan yn y de-ddwyrain eu bod yn cael trafferth mewn meysydd sy'n broblem ar lefel genedlaethol fel meddygaeth frys, iechyd meddwl, gynacoleg a pediatreg.