Mwy o bobl wedi derbyn trawsblaniad yng Nghymru

Ffynhonnell y llun, Other

Disgrifiad o'r llun, Byddai cynlluniau Llywodraeth Cymru yn ychwanegu enwau pawb at y gofrestr rhoi organau yn awtomatig

Mae ffigyrau a gyhoeddwyd ddydd Iau yn dangos bod mwy o bobl yng Nghymru wedi cael trawsblaniad organ yn 2011/12 o'i gymharu 芒'r flwyddyn flaenorol.

Yn ystod y flwyddyn bu 240 o roddion organau yn ysbytai Cymru - 203 oedd y ffigwr blaenorol.

Ond mae'r canran o bobl Cymru sydd ar y gofrestr rhoi organau wedi aros ar yr un lefel ag o'r blaen, sef 31%.

Ym mis Mehefin, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fanylion deddf newydd arfaethedig fydd yn cyflwyno trefn o ganiat芒d tybiedig - sef y bydd enwau pobl yn mynd ar y gofrestr oni bai eu bod yn mynegi eu dymuniad i beidio bod arni.

Mae'r wedi bod yn destun dadlau ers i'r syniad gael ei wyntyllu gan y llywodraeth.

Llai yn disgwyl

Mae'r ffigyrau a gyhoeddwyd ddydd Iau gan yr NHSBT (NHS Blood and Transplant) hefyd yn dangos bod llai o bobl yn aros am drawsblaniad yng Nghymru o 309 yn 2010/11 i 284 yn 2011/12.

Bu farw 41 o bobl wrth ddisgwyl am drawsblaniad, ac mae hynny 10 yn llai na'r flwyddyn flaenorol hefyd.

Dywedodd cyfarwyddwr meddygol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru, Dr Chris Jones, bod canran y boblogaeth sydd ar y gofrestr rhoi organau yng Nghymru yn "uwch na'r cyfartaledd ar gyfer y DU, sydd yn galonogol".

"Ers 2007/08, mae ymdrech enfawr wedi digwydd mewn ysbytai i gynyddu'r lefel o roi organau gan y meirw yng Nghymru, ac mae'r adroddiad ar gyfer 2011/12 yn dangos y cynnydd.

"Rydym o flaen ein hamcan i gael twf o 50% mewn rhoi organau o 2008 i 2013, gan ein bod eisoes wedi cyrraedd 49% erbyn 2012.

"Ond mae nifer y bobl yng Nghymru sy'n marw wrth ddisgwyl am organau yn dal yn rhy uchel, a rhaid i ni barhau i wneud popeth o fewn ein gallu i gynyddu'r nifer o roddwyr organau," meddai.

Dywedodd bod hyn yn cynnwys deddfwriaeth newydd.

"Er bod cyfradd rhoi organau yng Nghymru yn uwch na'r cyfartaledd i'r DU, mae'n dal yn rhy isel, ac rydym yn gwybod bod hynny oherwydd nad yw pobl yn trafod eu dymuniadau gyda'u teuluoedd.

"Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r gwasanaeth iechdy fel rhan o' hymroddiad i gynyddu'r nifer o roddwyr organau ar gyfer trawsblaniad."