TGAU: Ymyrraeth wleidyddol?

Disgrifiad o'r llun, Mae Mr Andrews yn feirniadol o Michael Gove

Mae Gweinidog Addysg Cymru Leighton Andrews yn honni fod yna fod yna ormod o ymyrraeth wleidyddol yng nghyfundrefn arholiadau TGAU.

Gwnaeth Mr Andrews ei sylwadau ar ddiwrnod cyhoeddi canlyniadau TGAU.

Am y tro cyntaf mewn degawd bu gostyngiad yn nifer y disgyblion gafodd y graddau uchaf rhwng A* ac C yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Cred Mr Andrews fod yna bwysau wedi ei roi ar fyrddau arholi i farcio yn fwy llym.

Mae Llywodraeth San Steffan yn gwadu fod hyn wedi digwydd.

Yn ddiweddar fe wnaeth Mr Andrews feirniadu Ysgrifennydd Addysg San Steffan, Michael Gove, am gyhoeddi newidiadau mewn polisi, a hynny heb ymgynghori 芒 gweinidogion addysg Cymru a Gogledd Iwerddon.

Mae athrawon hefyd yn honni fod y byrddau arholi wedi marcio yn rhy lym, yn enwedig yn TGAU Saesneg.

'Pwysau'

Mae Mr Gove yn gwadu fod unrhyw bwysau wedi ei roi ar fyrddau arholi.

Ond dywed Mr Andrews fod datganiadau gan Mr Gove wedi cael dylanwad.

"Mae ymyrraeth wleidyddol o ran y gyfundrefn arholiadau yn Lloegr wedi cael effaith, " meddai.

"Mae'n rhaid i ni ystyried a oes modd bod a hyder yn y gyfundrefn yng Nghymru pe bai penderfyniadau gwleidyddol yn Llundain yn tanseilio perfformiadau yng Nghymru. "

Dywed Mr Andrews fod yna broblemau penodol oherwydd arholiad newydd sy'n cael ei sefyll gan nifer o ysgolion yn Lloegr.

Dyw'r arholiad yma heb gael ei gymeradwyo yng Nghymru.

"Rydym yn poeni am safonau uchel yng Nghymru," meddai.

Lefel O

"Rydym yn credu ei fod yn bwysig fod disgyblion yn dilyn y rhaglen fwy llawn sydd i'w gael gan yr arholiad TGAU Saesneg.

"Beth sydd yn amlwg nawr yw nad yw'n gymhariaeth deg wrth edrych ar ganlyniadau yng Nghymru a chanlyniadau yn Lloegr."

Dywedodd y byddai'n rhaid ystyried y cysylltiad agos sydd yna rhwng y gyfundrefn arholi yn Lloegr a'r un yng Nghymru.

Mae Mr Gove wedi son ei fod yn awyddus i ddod ar drefn Lefel O yn 么l i ysgolion yn Lloegr.

Eisoes mae Mr Andrews wedi dweud na fydd hynny'n digwydd yng Nghymru.

Dywedodd llefarydd ar ran Adran Addysg San Steffan mai mater i'r sefydliadau datganoledig oedd hi i wneud beth oedd orau wrth reoli eu cyfundrefnau addysg, gan ychwanegu mai mater i'r Adran Addysg yn San Steffan oedd hi i wneud beth oedd orau o ran Lloegr.